Neidio i’r cynnwys

Eisiau bod eich bos eich hun? Gallai Lwfans Menter Newydd helpu

Woman looking down at iPad and smiling

Gyda chefnogaeth gan Lwfans Menter Newydd sefydlodd Razan Yorkshire Dama Cheese. Dair blynedd yn ddiweddarach mae hi'n entrepreneur sydd wedi ennill gwobrau gyda busnes sy'n ehangu'n gyflym. Ffilmiwyd cyn yr achos Covid-19.

Ydych erioed wedi cael yr awydd mentro dechrau’ch cwmni’ch hun? Gallech gael eich mentora a lwfans i’ch helpu wrth gychwyn pethau trwy Lwfans Menter Newydd (NEA).

Bydd rhaid eich bod wedi cael budd-daliadau penodol a bod gennych syniad busnes a allai weithio.

Ar wefan GOV.UK gallwch edrych ar deithiau ysbrydoledig entrepreneuriaid eraill sy’n mynd o fod yn ddiwaith i ddod yn fos arnynt eu hunain â chymorth NEA.

Dechrau arni gyda NEA

Siaradwch â’ch anogwr gwaith Canolfan Byd Gwaith – byddant yn esbonio sut gallai NEA eich helpu.

Pwy sy’n gymwys?

Gallech fod yn gymwys os ydych dros 18 oed ac yn naill ai:

  • rydych chi neu’ch partner yn cael Credyd Cynhwysol, Lwfans Ceisio Gwaith, neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • rydych yn cael Cymhorthdal Incwm ac rydych yn riant unigol neu gydag anabledd neu gyflwr iechyd

Beth fyddwch yn ei gael

Byddwch yn cael mentor fydd yn rhoi cyngor a chymorth i’ch helpu i sefydlu eich busnes ac i ddechrau masnachu.

Unwaith byddwch wedi gwneud cynllun busnes y mae eich mentor wedi ei gymeradwyo:

  • efallai byddwch yn cael lwfans wythnosol o hyd at £1,274 dros 26 wythnos
  • gallwch wneud cais am fenthyciad i helpu â chostiau cychwynnol

Diddordeb?

Er mwyn gwirio a ydych yn gymwys am Lwfans Menter Newydd, cysylltwch â’ch anogwr gwaith drwy mewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein Credyd Cynhwysol.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, gall barhau i’ch cefnogi os byddwch chi’n sefydlu’ch busnes eich hun. Os ystyrir eich bod yn hunangyflogedig â thâl ni fydd disgwyl i chi edrych am, na bod ar gael, i wneud gwaith arall. Bydd hyn yn eich helpu i ganolbwyntio ar wneud eich busnes yn llwyddiant.

Darllenwch fwy am Gredyd Cynhwysol a hunangyflogaeth.

Os ydych yn anabl neu mae gennych gyflwr iechyd

Efallai y gallwch gael cefnogaeth ychwanegol trwy grant Mynediad at Gwaith. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan gov.uk.

Gallwch ddarllen mwy am NEA ar wefan gov.uk.

Erthyglau