Neidio i’r cynnwys
Construction worker hammering nails into a flat roof

Adeiladu

P'un a ydych yn cychwyn yn eich gyrfa, yn newid swydd neu'n symud o sector gwahanol, mae ystod eang o rolau a chyfleoedd ar gael yn y maes adeiladu.

Mathau o rolau

Gallwch ddechrau yn y diwydiant adeiladu unrhyw adeg o ymadawr ysgol i ddiweddarach yn eich gyrfa. Mae llawer o bwyntiau mynediad ar gael gan gynnwys prentisiaethau, prentisiaethau uwch (sy’n cyfateb i flwyddyn gyntaf gradd) neu gyfleoedd lefel mynediad lle gallwch ddysgu yn y swydd.

Mae gan lawer o gwmnïau adeiladu mawr ac ymgynghoriaethau raglenni graddedigion gyda derbyniadau penodol bob blwyddyn. I gael mwy o wybodaeth am y gwahanol lwybrau i yrfa ym maes adeiladu, edrychwch ar adran ‘Beth yw fy opsiynau’ ar wefan Go Construct (agor mewn tab newydd), neu ewch i wefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol.

Mae gweithio yn y diwydiant adeiladu modern yn cynnig cyfleoedd i fod yn greadigol, yn gydweithredol ac i fwynhau potensial enfawr i amrywiaethu ac i dyfu.

Mae crefftau fel gosod brics a theils yn parhau i fod yn hanfodol, ond mae ystod enfawr o rolau cyffrous ac amrywiol eraill i’w dewis ohonynt ar wefan Go Construct. Cymerwch gip olwg ar wefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol i gael mwy o wybodaeth am y gwahanol rolau sydd ar gael.

P’un a yw’n well gennych swydd weithredol lle rydych allan ar hyd y lle, rôl swyddfa sy’n dibynnu mwy ar gynllunio a threfnu, neu rywbeth sy’n cyfuno’r ddwy, mae rhywbeth sy’n addas i’ch sgiliau a’ch dewisiadau.

Yn ogystal ag adeiladu tai, mae adeiladu masnachol – sy’n cynnwys popeth o swyddfeydd i stadia pêl-droed – ac isadeiledd, sy’n cynnwys ffyrdd, pontydd, cyflenwad dŵr a draenio, cyflenwad trydan a mwy. Ac yna, wrth gwrs, mae logisteg darparu’r gwasanaethau hyn, yn ogystal â chyfleoedd mewn ymchwil a datblygu, adnoddau dynol a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Manteision o weithio mewn adeiladu

Mae llawer o swyddi ymarferol ar safleoedd, nid yw’r diwydiant adeiladu bob tro am bobl mewn hetiau caled. Yn dibynnu ar eich profiad a’ch cymwysterau mae cannoedd o swyddi nad ydynt yn golygu eich bod yn cael eich dwylo’n fudr, gan gynnwys rolau rheoli a thechnegol, cynllunwyr a dylunwyr.

  • Dynion yw’r rhan fwyaf o bobl sy’n gweithio mewn swyddi adeiladu, ond mae hynny’n newid yn gyflym. Yn y DU, mae 14% o bobl yn y diwydiant yn fenywod – mae hynny’n fwy na 320,000 o fenywod. Maent yn gwneud ystod lawn o swyddi o weithio ar y safle i oruchwylwyr a rheolwyr prosiect ar gyfer peirianwyr.
  • Ar hyn o bryd mae prinder sgiliau yn y diwydiant adeiladu, sy’n gyfle gwych i raddedigion newydd. Mae rheoli prosiectau adeiladu gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer busnes adeiladu yn foddhaus, yn fedrus iawn ac mor addas i rywun sydd wedi bod yn y brifysgol â rhywun sydd heb wneud hynny
  • Mae llawer o swyddi mewn adeiladu mewn ei ffocysu ar gynaladwyedd a thechnolegau gwyrdd, sydd yn helpu i sicrhau fod yr amgylched yn cael ei warchod yn ystod ac ar ôl adeiladu.
  • Gall adeiladau modern gael effaith bositif ar y gymuned â’r bobl sydd yn eu defnyddio. Er engraifft, gall ystad dai newydd gynnwys maes chwarae cymunedol neu gampfa i’r holl breswylwyr ddefnyddio.
  • Mae adeiladu yn ddiwydiant cyffrous ar flaen y gad technolegau newydd. Mae adeiladu modern yn datblygu a defnyddio’r technoleg diweddaraf, gan gynnwys modelu cyfrifiadurol 3D, dronau arolygu a thecholeg nano i ddatblygu deunyddiau newydd
Saer coed yn gweithio gydag offer wrth fainc

Sgiliau dymunol

Mae amryw o sgiliau eu hangen ar gyfer rolau mewn adeiladu gan gynnwys sgiliau cyfathrebu rhagorol, datrys problemau, sylw i fanylion, sgiliau corfforol megis symudiad, cydsymud a deheurwydd a’r gallu i weithio yn dda gyda eraill

Dysgu mwy

CYMORTH OS OES GENNYCH ANABLEDD NEU GYFLWR IECHYD HIRDYMOR

Mae llawer o gyflogwyr yn y sector hwn yn aelodau o’r cynllun Hyderus o ran Anabledd. Mae hyn yn golygu eu bod wedi ymrwymo i gamau gweithredu a fydd yn darparu cyfleoedd sy’n gysylltiedig â gwaith i bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol. Gallwch chwilio am swydd gyda chyflogwr Hyderus o ran Anabledd ar Dod o hyd i swydd.

Gall Mynediad i Waith dalu tuag at y costau am gymorth cyfathrebu mewn cyfweliad swydd ac efallai y gall ddarparu cymorth ymarferol neu iechyd meddwl parhaus pan fyddwch yn cael swydd. I gael gwybod a ydych yn gymwys, edrychwch ar y canllawiau diweddaraf.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn

Sectorau eraill sy’n cyflogi ar hyn o bryd