Gallwch ddechrau yn y diwydiant adeiladu unrhyw adeg o ymadawr ysgol i ddiweddarach yn eich gyrfa. Mae llawer o bwyntiau mynediad ar gael gan gynnwys prentisiaethau, prentisiaethau uwch (sy’n cyfateb i flwyddyn gyntaf gradd) neu gyfleoedd lefel mynediad lle gallwch ddysgu yn y swydd.
Mae gan lawer o gwmnïau adeiladu mawr ac ymgynghoriaethau raglenni graddedigion gyda derbyniadau penodol bob blwyddyn. I gael mwy o wybodaeth am y gwahanol lwybrau i yrfa ym maes adeiladu, edrychwch ar adran ‘Beth yw fy opsiynau’ ar wefan Go Construct (agor mewn tab newydd), neu ewch i wefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol.
Mae gweithio yn y diwydiant adeiladu modern yn cynnig cyfleoedd i fod yn greadigol, yn gydweithredol ac i fwynhau potensial enfawr i amrywiaethu ac i dyfu.
Mae crefftau fel gosod brics a theils yn parhau i fod yn hanfodol, ond mae ystod enfawr o rolau cyffrous ac amrywiol eraill i’w dewis ohonynt ar wefan Go Construct. Cymerwch gip olwg ar wefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol i gael mwy o wybodaeth am y gwahanol rolau sydd ar gael.
P’un a yw’n well gennych swydd weithredol lle rydych allan ar hyd y lle, rôl swyddfa sy’n dibynnu mwy ar gynllunio a threfnu, neu rywbeth sy’n cyfuno’r ddwy, mae rhywbeth sy’n addas i’ch sgiliau a’ch dewisiadau.
Yn ogystal ag adeiladu tai, mae adeiladu masnachol – sy’n cynnwys popeth o swyddfeydd i stadia pêl-droed – ac isadeiledd, sy’n cynnwys ffyrdd, pontydd, cyflenwad dŵr a draenio, cyflenwad trydan a mwy. Ac yna, wrth gwrs, mae logisteg darparu’r gwasanaethau hyn, yn ogystal â chyfleoedd mewn ymchwil a datblygu, adnoddau dynol a chynllunio ar gyfer y dyfodol.