Os ydych yn barod i wybod rhagor am eich sgiliau presennol, yna ewch i’r Teclyn Asesu Sgiliau ar wefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol sy’n lle gwych i ddechrau. Gallwch asesu’ch sgiliau mewn llai na 15 munud trwy ateb rhai cwestiynau amlddewis byr am y pethau rydych yn hoffi eu gwneud neu’n eu gwneud yn dda.
Mae’r fideo hwn yn cyflwyno’r teclyn, sut mae’n gweithio, a beth mae’r canlyniadau’n golygu:
Unwaith eich bod wedi gorffen yr asesiad efallai byddwch am ddefnyddio’ch canlyniadau i archwilio opsiynau gyrfaoedd gwahanol. Gallwch gymharu gyrfaoedd gwahanol a gweld beth gallai eich siwtio orau.
Gallai’ch cam nesaf fod i ffonio ymgynghorydd o’r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol am gyngor penodol am ddim ar 0800 100 900. Gallwch gysylltu â hwy rhwng 8am a 10pm 7 diwrnod yr wythnos. Fel arall, efallai byddwch eisiau defnyddio’r ‘Skills Tool Kit’ ar wefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol sy’n rhoi mynediad i chi i gyrsiau safon uchel am ddim i’ch helpu i feithrin eich sgiliau.