Neidio i’r cynnwys

Awgrymiadau i ddod o hyd i’ch swydd gyntaf

Young woman working at laptop

1. Argraffwch sawl gopi o’ch CV a’ch llythyr eglurhaol a’u dosbarthu i siopau a busnesau lleol eraill. Er bod gan y rhan fwyaf o gwmnïau mawr brosesau ceisio ar-lein, yn aml bydd busnesau llai yn cadw CVs, hyd yn oed os na fydd ganddynt swyddi gwag ar yr adeg honno. Gallwch hefyd geisio ebostio busnesau lleol i holi am eu swyddi gwag.

2.  Cofrestrwch am hysbysiadau ar fyrddau swyddi ar-lein fel gwefan Dod o hyd i swydd. Gallwch nodi’ch diddordebau a theilwra’r ysbysiadau i gyd-fynd â hwy.

3. Pan fyddwch yn ysgrifennu’ch CV a’ch llythyr eglurhaol, peidiwch ag anghofio i gynnwys unrhyw hobïau neu gyflawniadau. Gallai hynny fod ym maes chwaraeon, gweithgareddau allgyrsiol fel Gwobr Dug Caeredin, neu unrhyw beth arall sy’n dangos eich ymrwymiad a’ch gwaith caled!

4. Er mwyn ennill profiadau i’w hychwanegu at eich CV, dylech ystyrio gwaith gwirfoddol. Mae siopau elusennol yn lle gwych i gael sgiliau hanfodol fel gwasanaeth cwsmeriaid, delio ag arian a rheoli amser. Mae hefyd yn gyfle i gael geirda i’w gynnwys ar eich ceisiadau. Ar ben hynny, pam na wnewch roi hwb i’ch sgiliau bywyd a gwaith am ddim, drwy gofrestru am hyfforddiant ‘‘Young Professional’ ar wefan’Youth Employment UK.

5. Mae cael eich swydd gyntaf yn anodd! Peidiwch ag anobeithio, ond daliwch ati ac anfon ceisiadau allan.

Mae llawer o bethau gallwch eu gwneud i helpu wrth i chi chwilio am swyddi, fel creu cyfrif LinkedIn er mwyn adeiladu’ch rhwydwaith a chadw cofnod o sgiliau a phrofiadau newydd, manwl gyweirio’ch CV a bod yn ymwybodol o beth rydych yn ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Erthyglau