Neidio i’r cynnwys

A allech chi weithio yn y diwydiant TG?

Woman concentrating on three desktop computer screens

Os ydych yn chwilio am gyfle gwaith newydd, gallai’r diwydiant Technoleg Gwybodaeth (TG) gynnig mwy nag yr ydych chi’n ei sylweddoli.

Dyma rai mythau poblogaidd am y diwydiant TG, wedi’u chwalu!

“Mae TG yn cael ei ddominyddu gan ddynion, yn ‘geeky’ ac yn gymhleth”

  • mae merched yn cyfrif am ddim ond 17% o weithwyr proffesiynol TG a Thelathrebu ond nod y fenter Merched a TG gan Gyngor Sgiliau’r Sector E-Sgiliau yw gwneud gwahaniaeth i’r gymysgedd rhywedd a delwedd y diwydiant.

“Mae’n rhaid i chi fyw yn Llundain i fynd i mewn i’r sector”

  • mae’n wir bod gan Lundain a de-ddwyrain Lloegr fwy o swyddi na rhanbarthau eraill ond mae’r cyfanswm yn llai na hanner holl swyddi’r DU ym maes TG.

“Nid oes unrhyw swyddi ym maes TG”

  • bydd cyflogaeth yn y galwedigaethau proffesiynol TG a Thelathrebu yn tyfu ar 2.19% y flwyddyn – bron i bum gwaith yn gyflymach na chyfartaledd y DU.
  • mae angen 21,000 o recriwtiaid newydd ar y DU i’r sector TG bob blwyddyn o addysg.
  • mae’r nifer o swyddi gwag TG/Telathrebu wedi codi ym mhob un o’r pedwar chwarter diwethaf.

Ble nesaf…

Chwiliwch am a gwneud cais am swyddi ym maes TG ar wefan Dod o Hyd i Swydd. I gael proffiliau swyddi manwl a gwybodaeth bellach ewch i wefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol.

Ac os mae sgiliau digidol mae gennych ddiddordeb ynddynt, yna mae gan y ‘Skills Tookit’ ar wefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol gyrsiau ar-lein am ddim ar bob lefel – gan bobl fel Google.

Erthyglau