Neidio i’r cynnwys

5 awgrym ar gyfer dod o hyd i waith ar ôl gadael y carchar

Gall gadael carchar fod yn amser heriol ond gall hefyd roi’r cyfle i chi bwyso a mesur eich set sgiliau, gan roi’r cyfle gorau i chi ddod o hyd i waith. Dyma bum awgrym i’ch helpu i gael swydd:

1: Asesu eich bylchau sgiliau

Cymerwch yr asesiad sgiliau ar wefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol i ddarganfod pa yrfaoedd a allai fod yn addas iawn i chi. Wyddoch chi fyth, efallai y dewch  ar draws rhywbeth na wnaethoch erioed ei ystyried o’r blaen.

Edrychwch ar filoedd o swyddi allweddol mewn diwydiannau sy’n tyfu.

2: Datblygu eich set sgiliau

P’un a ydych yn ystyried gyrfa hollol newydd neu’n paratoi i fynd yn ôl i rôl debyg i’r un a oedd gennych cyn y carchar, meddyliwch am feysydd yr hoffech ddatblygu ynddynt. Gallwch gael cyngor wedi’i deilwra am ddim ar gyfleoedd dysgu gan sefydliadau’r llywodraeth a restrir isod:

Ewch i wefan My World of Work (Yr Alban), gwefan Gyrfa Cymru (Cymru) neu wefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol (Lloegr).

Am gymorth gyda sgiliau digidol a rhifedd, edrychwch ar, wefan The Skills Toolkit sydd â chyrsiau rhad ac am ddim o ansawdd uchel gan ystod o ddarparwyr fel Google Digital Garage, Lloyds Bank a’r Open University.

Mae hefyd nifer o gyrsiau am ddim ar wefan Reed.co.uk

3. Ennill profiad trwy wirfoddoli

Mae gwirfoddoli yn rhoi cyfle i chi wneud pethau nad ydych wedi’u gwneud o’r blaen. Mae hefyd yn ffordd wych o ennill profiad pan rydych wedi bod allan o waith am gyfnod, gan roi hwb i’ch siawns o ennill gwaith â thâl. Mae’n dangos i gyflogwyr eich bod yn llawn cymhelliant, yn alluog ac yn gallu datblygu eich hun. Gallwch wirfoddoli ar hyn o bryd – darganfyddwch sut i helpu yn eich ardal leol drwy fynd i wefan NVCO.

4. Diweddaru eich CV

Bydd gennych ystod o sgiliau nad ydych efallai’n eu cydnabod, ac efallai eich bod hyd yn oed wedi ennill rhai newydd yn ystod eich amser yn y carchar. Mae gan gwefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol gyngor gwych ar sut i adlewyrchu’r sgiliau hynny mewn CV effeithiol.

5. Cysylltu â’ch anogwr gwaith

Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar ôl cael eich rhyddhau, ac yn gallu chwilio am waith, byddwch yn cael anogwr gwaith yn eich canolfan gwaith leol. Gallant helpu i ddarparu rhaglen wedi’i theilwra o weithgareddau i chi a fydd yn helpu i roi’r hyder a’r gallu i chi symud yn ôl i’r gwaith. Y ffordd orau i gysylltu â’ch anogwr gwaith yw trwy eich cyfrif ar-lein Credyd Cynhwysol.

Gellir dod o hyd i fwy o gymorth a chyngor i ddod o hyd i waith ar wefan Nacro – edrychwch ar eu canllawiau cyflym ar i ddechrau arni.

Erthyglau