Neidio i’r cynnwys

Gweithio a chefnogi iechyd neu ofal rhywun

Oes gennych chi aelod o’r teulu, partner neu ffrind sydd angen gofal neu gefnogaeth barhaus gyda bywyd o ddydd i ddydd?

Gall y gefnogaeth y gallai fod ei hangen arnynt amrywio ond gallai gynnwys:

  • cefnogaeth emosiynol fel help i reoli gorbryder neu iechyd meddwl
  • help gyda gwaith tŷ
  • helpu i symud o gwmpas, ymolchi neu fwyta
  • casglu hanfodion fel presgripsiynau neu fwyd
  • helpu i reoli arian neu wasanaethau

Mae llawer o bobl yn cyfuno gweithio a gofalu, ond gall fod yn her. Gall y gofal sydd ei angen neu eich sefyllfa newid, felly mae’n ddefnyddiol meddwl ymlaen llaw a deall yr ystod o gymorth sydd ar gael i chi. Mae’r tudalennau hyn yn rhoi cyngor i chi am y cymorth sydd ar gael. Nid oes angen i chi gael cymorth ffurfiol gan y llywodraeth fel Lwfans Gofalwr neu ofalu am nifer penodol o oriau er mwyn i’r cymorth hwn eich helpu.

Gan fod pob sefyllfa gofal yn unigryw, efallai na fydd rhywfaint o gymorth yn teimlo’n berthnasol i chi ar hyn o bryd. Ond gall fod yn ddefnyddiol gwybod beth sydd ar gael os bydd ei angen arnoch yn y dyfodol.

Rydym yn argymell arbed y dudalen hon gan fod llawer o bobl sy’n gofalu am rywun yn ei chael hi’n ddefnyddiol cael gwybodaeth wrth law pan fydd pethau’n newid.

Cliciwch ar un o’r dolenni isod i ddarganfod am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gaell lle rydych yn byw.