Neidio i’r cynnwys

CANLLAW CYFLYM AR GREU CV

Cymerwch eich amser. Pan mae’n dod i’ch CV mae’r cyngor yma i’ch helpu.

Pum awgrym gwych i wneud i’ch CV sefyll allan!

Geiriau

Dylech gynnwys y geiriau cywir a chael gwared o’r rhai nad ydych eu hangen.

  • Dewch o hyd i’r geiriau allweddol yn yr hysbyseb swydd a’u defnyddio yn eich CV. Mae’n dangos i gyflogwr eich bod yn deall y rôl sydd ar gael.
  • Peidiwch â defnyddio geiriau slang neu dalfyriadau efallai na fydd cyflogwr yn eu hadnabod.

Addasu

Peidiwch â defnyddio’r un CV ar gyfer pob cais am swydd, dyna’r llwybr at gael eich gwrthod.

  • Mae eich CV sylfaenol yn fan cychwyn da ar gyfer pob cais, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn ei addasu i gyd-fynd â’r rôl rydych yn ymgeisio amdani.
  • Mae llawer o recriwtwyr yn defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol i sganio CVs ar gyfer y paru orau i’r swydd. Gall defnyddio geiriau allweddol o’r hysbyseb swydd eich helpu i’ch cael chi drwodd.

Sgiliau

Mae cyflogwyr yn hoffi gwybod am y ‘sgiliau meddal’ sydd gennych.

  • ‘Sgiliau meddal’ yw eich sgiliau personol – y rhai nad ydych yn cael cymwysterau ar eu cyfer.
  • Nid yw ‘meddal’ yn golygu pa mor ‘cuddly’ ydych chi (er y gallai hynny fod yn braf), mae’n golygu’r math o bethau y mae pob cyflogwr yn chwilio amdanynt, fel gweithio mewn tîm, cyfathrebu a sgiliau datrys problemau.
  • Rhowch rai enghreifftiau o’ch bywyd personol, o fod mewn tîm chwaraeon i warchod plant i gynnal yr holl dechnoleg gartref.
  • Dylech gynnwys unrhyw leoliadau ffurfiol rydych chi wedi’u gwneud, er enghraifft, drwy Gynllun Gwobr Dug Caeredin neu mewn grwpiau cymunedol.

Proffesiynol

Dylai eich CV fod yn hawdd ei ddarllen, yn glir ac yn daclus.

  • Defnyddiwch bwyntiau bwled a brawddegau byr, a gwirio am deipos a chamgymeriadau sillafu.
  • Cael rhywun arall i ddarllen drwy’ch CV cyn i chi ei anfon – mae ail bâr o lygaid yn gallu sylwi ar bethau rydych chi wedi’u colli.

Gwerthu

Mae eich CV yn ffordd o’ch gwerthu chi.

  • Tynnwch sylw at eich sgiliau a’ch cyflawniadau.
  • Gwnewch y gorau o’r hyn sydd gennych – peidiwch â bod yn swil.

Eisiau gwybod mwy am ysgrifennu CV? Edrychwch ar ein hadran CVs a llythyrau eglurhaol.

Ewch i’r dudaen nesaf ‘Hyder, cymhelliant a iechyd meddwl’ →

← Yn ôl i’r dudalen dewislen ‘Ifanc ac yn chwilio am waith?’