Neidio i’r cynnwys

Hyder, Cymhelliant a Iechyd Meddwl

Gall chwilio am swydd fod yn heriol – mae’n cymryd amser a bydd rhwystrau.

Ond mae angen i chi ddal ati oherwydd gall dod o hyd i’r swydd iawn newid bywyd – yr arian, yr ymdeimlad o gyflawniad, y sgiliau newydd a’r ffrindiau newydd.

Mae gofalu am eich iechyd meddwl tra byddwch yn chwilio am waith yn bwysig iawn. Os ydych yn aros yn bositif ac yn credu ynoch chi’ch hun, ni fydd chwilio am swydd yn teimlo fel baich, byddwch yn fwy tebygol o gadw ati, a bydd darpar gyflogwyr yn gweld y gorau ohonoch chi.

Dyma rai awgrymiadau ar sut i ofalu am eich lles meddyliol, meithrin eich hyder ac aros yn llawn cymhelliant.

Cofiwch beth rydych yn dda yn ei wneud

  • Pan fyddwch yn dechrau chwilio am swydd yw gwneud rhestr o beth rydych yn dda yn ei wneud a’r pethau rydych yn eu mwynhau. Mae’n gwneud i chi feddwl am beth allech chi ei gynnig i gyflogwr, a bydd yn eich helpu i adeiladu eich hunan-hyder.
  • Gofynnwch i bobl sy’n eich adnabod yn dda am eu hawgrymiadau – mae’n ffordd wych o gael adborth cadarnhaol.
  • Ewch yn ôl i’ch rhestr yn rheolaidd. Ychwanegwch ato os ydych yn cofio mwy o bethau rydych yn dda yn eu gwneud neu os oes rhywun yn dweud rhywbeth cadarnhaol amdanoch chi.
  • Os ydych yn cael rwystr, darllenwch y rhestr eto i atgoffa’ch hun o’r holl bethau rydych yn eu gwneud yn dda.

Cael nod gwaith

  • Gweithiwch allan eich nod swydd, hynny yw, pa fath o swydd rydych ei eisiau.
  • Bydd cael nod clir yn helpu i’ch cadw yn frwdfrydig ac i ganolbwyntio.
  • Cadwch ef yn realistig. Os yw’ch nod yn afrealistig, rydych yn llai tebygol o’i gyflawni a bydd hynny’n eich llusgo i lawr.

Bod yn hyblyg ac yn rhagweithiol

  • Nid yw cael nod swydd penodol yn golygu y dylech ddiystyru pob cyfle arall. Os nad yw’ch swydd ddelfrydol yn dod i fyny ar hyn o bryd, gallwch edrych ar rywbeth arall.
  • Mae bod yn rhagweithiol a chadw’ch chwiliad gwaith i fynd yn well nag eistedd ac aros.
  • Nid yw hyn yn golygu y dylech fod yn gwneud cais am unrhyw swydd a welwch. Byddwch yn ddoeth a chwiliwch am gyfleoedd a all eich helpu i gael y sgiliau a’r profiad y byddwch eu hangen pan ddaw’r swydd ddelfrydol i fyny.
  • Darganfyddwch fwy am nodau swyddi a chynllunio eich chwiliad gwaith gyda’n
  • Darganfyddwch fwy am nodau swyddi a chynllunio eich chwiliad gwaith gyda’n 7 cam i lwyddiant.

Byddwch yn dda i chi’ch hun

  • Mae bob un ohonom yn cael adegau pan fyddwn yn meddwl na allwn wneud rhywbeth. Mae’n rhan naturiol o fywyd. Ond nid yw hynny’n rheswm i fod yn galed ar eich hun.
  • Ar gyfer pob peth negyddol, meddyliwch am rywbeth cadarnhaol. Gofynnwch i chi’ch hun: ‘A fyddwn i’n dweud y pethau negyddol hyn wrth ffrind?’ Yn fwy na thebyg na. Rydych chi’n llawer mwy tebygol o ddweud rhywbeth calonogol a chefnogol. Dylech drin eich hun yn yr un ffordd.
  • Mae’n iawn i wobrwyo’ch hun os ydych wedi cael llwyddiant. Does dim ots pa mor fawr neu fach yw’r llwyddiant, mae’n bwysig rhoi gwobr i chi’ch hun a dweud, ‘Da iawn fi’.
  • Gofalwch am eich iechyd corfforol. Gall hyn helpu eich lles meddyliol. Ceisiwch gael digon o gwsg – dim gormod, dim rhy ychydig. Dylech gynnwys ychydig o ymarfer corff yn eich diwrnod a chael awyr iach. Mae hyn yn rhoi hwb i’ch lefelau egni, yn annog meddyliau cadarnhaol ac yn helpu gyda chwsg.

Adeiladu rhwydwaith cymorth

  • Nid oes rhaid i chi wneud hyn ar eich pen eich hun. Mae llefydd a phobl y gallwch fynd i gael help, felly peidiwch â bod ofn gofyn.
  • Teulu a ffrindiau
    • Gall siarad â phobl sy’n poeni amdanoch chi roi hwb i’ch hyder a’ch helpu i ddod dros unrhyw rwystrau ar y ffordd. Gallent roi help ymarferol i chi fel gwirio’ch CV cyn i chi ei anfon neu roi ffug gyfweliad i chi. Efallai y byddant hyd yn oed yn gallu cynnig cyngor neu gysylltiadau.
    • Neu efallai y gall dim ond cael rhywun i siarad â hwy helpu i gael y straen allan o’ch system cyn i chi symud ymlaen i’r cyfle nesaf.
  • Cymorth arbenigol
    • Os ydych angen cymorth a chyngor ychwanegol, mae yna sefydliadau a all helpu. Os ydych yn hawlio budd-daliadau, gall eich Canolfan Byd Gwaith leol eich helpu. Gofynnwch i’ch anogwr gwaith am y Cynnig Ieuenctid (gwefan allanol).
    • Efallai y bydd elusennau lleol hefyd yn gallu eich helpu i ddod o hyd i waith neu gynnig cyngor ymarferol os, er enghraifft, bod gennych anabledd neu gyflwr iechyd.
  • Cefnogaeth iechyd meddwl

Heriwch eich hun

  • Gall gosod heriau i’ch hun helpu i newid eich trefn arferol, meithrin eich hyder ac aros yn ffres ac yn llawn cymhelliant. Gallai her fod yn fawr neu’n fach – gallai fod yn unrhyw beth o goginio rysáit newydd i ddechrau loncian.
  • Gall eich her fod yn gysylltiedig yn uniongyrchol â’ch chwiliad gwaith. Er enghraifft, os nad ydych wedi cael cynnig swydd roeddech ei heisiau, gofynnwch i’r cyflogwr am adborth ar beth wnaethoch yn dda a beth sydd angen ei wella. Heriwch eich hun i wneud y gwelliant hwnnw. Gallai fod yn cymryd cwrs byr i ddysgu sgil newydd, cael rhywfaint o brofiad gwaith neu wneud rhywfaint o wirfoddoli.
  • Ond gwnewch yn siwr bod eich heriau yn realistig ac yn gyraeddadwy yn yr amser sydd gennych. Gwobrwywch eich hun am bob llwyddiant.

Ewch i’r dudalen nesaf ‘Profiad gwaith – canllaw cyflym’ →

← Yn ôl i’r dudalen dewislen ‘Ifanc ac yn chwilio am waith?’