Neidio i’r cynnwys

AWGRYMIADAU AR SUT I WELLA EICH RHAGOLYGON GYRFA

Mae mwy nag un ffordd o symud ymlaen yn eich gyrfa ac elwa ar fwy o foddhad swydd a chyflog cymryd adref uwch.

Weithiau, efallai y bydd angen i chi ddod o hyd i gyflogwr newydd os ydych am ennill mwy neu wneud cynnydd.

Ond yn y rhan fwyaf o achosion cam cyntaf call yw siarad â’ch cyflogwr presennol er mwyn darganfod beth y gallant ei gynnig. Gallai hyn fod yn gweithio mwy o oriau, ennill mwy o arian drwy gymryd cyfrifoldebau ychwanegol neu newid eich patrwm gwaith i fod yn fwy addas i chi.

Dyma rai syniadau i’ch helpu i siarad â’ch rheolwr am eich opsiynau gyrfa a darganfod sut gallwch chi adeiladu eich sgiliau a chyflawni eich potensial.  

Cael sgwrs agored ac onest gyda’ch cyflogwr:

Mae cael sgyrsiau onest gyda’ch pennaeth yn gallu bod yn anodd. Fodd bynnag, mae’n rhan o’u rôl i’ch arwain yn y gwaith, ac mae hyn yn cynnwys trafod eich dilyniant gyrfa. Cofiwch eu bod eisiau i chi gyflawni eich potensial a darparu mwy i’r busnes hefyd.

Isod mae rhai camau y gallwch eu cymryd i gael y gorau allan o’r sgwrs:

  • Neilltuwch amser – felly gallwch chi a’ch pennaeth gael sgwrs mewn llonydd
  • Paratowch – cymerwch lyfr nodiadau gyda’r pethau yr hoffech chi eu trafod, fel ymgymryd â dyletswyddau ychwanegol, gweithio mwy o shifftiau, neu wneud rhywfaint o hyfforddiant fel bod gennych chi fwy i’w gynnig i’r busnes. Cadwch gofnod o unrhyw bwyntiau allweddol a ddaw o’r drafodaeth.
  • Cadwch feddwl agored – efallai na fydd rhai cyflogwyr yn gallu cynnig yr hyn rydych chi’n gofyn amdano ar unwaith, felly byddwch yn agored i ddewisiadau eraill y gallent eu hawgrymu.
  • Ymchwiliwch i’r opsiynau y gallai’r cwmni eu cynnig – darganfyddwch pa gyfleoedd dilyniant gyrfa neu ddatblygiad sgiliau y gallent eu cynnig, fel prentisiaethau neu gyrsiau hyfforddiant.
  • Cadwch y sgwrs dilyniant gyrfa i fynd – os yw eich cyflogwr yn gwybod eich bod yn chwilio am fwy o oriau neu shifftiau ychwanegol, neu y byddech chi’n hoffi cyfrifoldebau ychwanegol i’ch helpu chi i symud ymlaen, gallant eich cadw mewn cof pan fydd cyfleoedd yn codi.

Sut i roi hwb i’ch sgiliau a’ch profiad tra yn y gwaith:

  • Gofynnwch i’ch cyflogwr am fwy o oriau a chyfrifoldeb yn eich rôl – fel arfer mae cyflogwyr yn fodlon rhoi mwy o oriau i weithwyr os gallant. Mae cynnig gweithio oriau ychwanegol yn dangos eich bod wedi ymrwymo i’r swydd, ond hefyd yn golygu bod gennych fwy o amser i ymarfer y sgiliau sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen.
  • Cofrestrwch ar gyrsiau hyfforddi am ddim i wella’ch sgiliau yn eich rôl bresennol – gofynnwch i’ch cyflogwr os ydynt yn cynnig unrhyw un o’r gwasanaethau hyn neu edrychwch ar-lein. Mae digonedd o adnoddau am ddim ar Skills for Life.
  • Dewch o hyd i fentor yn y gweithle – gall mentoriaid gynnig cyngor ar ddilyniant gyrfa o brofiad uniongyrchol. Mae cydweithwyr yn aml yn awyddus iawn i helpu a rhoi cyngor. Hefyd, efallai y byddwch chi’n gallu cysgodi eich mentor i weld beth sydd ei angen i chi symud ymlaen.
  • Gwirfoddolwch – i ddangos i’ch cyflogwr eich bod yn barod a bod gennych y sgiliau i symud ymlaen, gallwch feddwl am wirfoddoli y tu allan i’r gwaith. Yn ogystal â helpu eich cymuned leol, gall hyn eich helpu i ddysgu sgiliau newydd neu hybu’ch rhai presennol.
  • Ysgrifennwch gynllun ar gyfer eich datblygiad personol – mae hyn yn ffordd wych o nodi eich nodau gyrfa yn y dyfodol. Gall eich cynllun hefyd helpu mewn cyfarfodydd gyda’ch cyflogwr, i helpu sgyrsiau dilyniant gyrfa.
  • Adeiladwch rhwydwaith gyda’ch cydweithwyr a/neu weithwyr presennol – gall hyn eich helpu i ddeall gwahanol lwybrau gyrfa.

Os ydych angen cymorth ychwanegol arnoch wrth edrych i ddatblygu yn y gwaith:

Os ydych eisoes yn hawlio budd-daliadau, ac eisiau symud ymlaen ymhellach yn eich gyrfa i ennill mwy o arian, edrychwch ar y dudalen eich helpu chi i ennill mwy o’r gwaith.

Os hoffech ddatblygu ac ennill mwy o arian, ond rydych yn poeni am sut y bydd yn effeithio ar eich budd-daliadau presennol, gallwch gael cyngor ariannol am ddim gan Gyngor ar Bopeth.