Neidio i’r cynnwys

Sut i gael i mewn i adeiladu a beth i’w ddisgwyl

Man in protective equipment welding steel on a construction site.

Nid oes un llwybr i yrfa adeiladu.

Gallwch ddechrau yn y diwydiant adeiladu unrhyw adeg o ymadawr ysgol i ddiweddarach yn eich gyrfa. Mae yna lawer o bwyntiau mynediad ar gael gan gynnwys prentisiaethau, prentisiaethau uwch (sy’n cyfateb i flwyddyn gyntaf gradd) neu gyfleoedd lefel mynediad lle gallwch ddysgu yn y swydd.

Mae gan lawer o gwmnïau adeiladu mawr ac ymgynghoriaethau raglenni graddedigion gyda mewnlifiadau penodol bob blwyddyn. I gael mwy o wybodaeth am y gwahanol lwybrau i yrfa ym maes adeiladu, edrychwch ar adran ‘What are my options’ ar wefan Go Construct, neu ewch i  wefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol.

Mae’r Cyngor Arweinyddiaeth Adeiladu (CLC) yn cefnogi gyrfaoedd yn y diwydiant gyda’r Cynllun Cadw Talent Adeiladu. Mae’r cynllun yn helpu pobl dalentog i arddangos eu profiad a’u harbenigedd, ac yn helpu busnesau i ddod o hyd i’r recriwtiaid medrus maent eu hangen. Am fanylion ewch i wefan CLC.

Pa sgiliau rwyf eu hangen?

Mae angen llawer o sgiliau ar gyfer rolau mewn adeiladu. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cyfathrebu ar lafar rhagorol
  • datrys problemau
  • defnyddio cyfrifiaduron
  • gwneud y gwaith o fewn terfyn amser
  • gweithio mewn timau
  • arwain eraill
  • deall cyfarwyddiadau
  • penderfynu
  • cyd-dynnu â phobl
  • y gallu i weithio’n dda gydag eraill
  • prydlondeb a dibynadwyedd da
  • sgiliau corfforol fel symud, cydsymud a deheurwydd
  • y gallu i weithio’n dda gyda’ch dwylo
  • sylw at fanylder

Pa fathau o rolau sydd ar gael?

Mae gweithio yn y diwydiant adeiladu modern yn cynnig cyfleoedd i fod yn greadigol, yn gydweithredol ac i fwynhau potensial enfawr i amrywiaethu ac i dyfu.

Mae crefftau fel gosod brics a theils yn parhau i fod yn hanfodol, ond mae yna ystod enfawr o rolau cyffrous ac amrywiol eraill i’w dewis ohonynt ar wefan Go Construct. Cymerwch gip olwg ar wefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol i gael mwy o wybodaeth am y gwahanol rolau sydd ar gael.

P’un a yw’n well gennych swydd weithredol lle rydych allan ar hyd y lle, rôl swyddfa sy’n dibynnu mwy ar gynllunio a threfnu, neu rywbeth sy’n cyfuno’r ddwy, mae yna rywbeth sy’n addas i’ch sgiliau a’ch dewisiadau.

Yn ogystal ag adeiladu tai, mae yna adeiladu masnachol – sy’n cynnwys popeth o swyddfeydd i stadia pêl-droed – ac isadeiledd, sy’n cynnwys ffyrdd, pontydd, cyflenwad dŵr a draenio, cyflenwad trydan a mwy. Ac yna, wrth gwrs, mae logisteg darparu’r gwasanaethau hyn, yn ogystal â chyfleoedd mewn ymchwil a datblygu, adnoddau dynol a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Pa gymwysterau a phrofiad rwyf eu hangen?

Mae gan bob rôl wahanol ofynion ac yn aml sawl llwybr i yrfa – p’un a ydych yn chwilio am swydd lefel mynediad, prentisiaeth neu swydd raddedig.

Beth bynnag lefel yw eich sgiliau cyfredol neu’r llwybr a ddewiswyd, gallwch ddod o hyd i yrfa gan ddefnyddio’r archwiliwr gyrfa ar wefan Go Construct.

Edrychwch ar gyrsiau adeiladu ar wefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol.

Mae llawer o gwmnïau’n cynnig hyfforddiant yn y gwaith, felly byddwch yn aml yn dod o hyd i ddigon o gyfleoedd i dyfu eich sgiliau tra’ch bod yn gweithio hefyd.

Allech chi weithio yn y sector adeiladu? Gwiriwch ble i ddod o hyd i swyddi adeiladu, gwelwch y swyddi gwag diweddaraf rydyn ni’n gwybod amdanyn nhw, neu chwiliwch nawr ar wefan Dod o hyd i swydd.

Fel arall, fe allech chi edrych ar y cyfleuster chwiliad gyrfa ar wefan Go Construct i ddarganfod mwy am y sgiliau, y cymwysterau a’r cyflog ar gyfer opsiynau gyrfa amrywiol mewn adeiladu.

Erthyglau