Neidio i’r cynnwys

Rhaglen academi waith yn seiliedig ar sector (SWAPs)

Mae SWAPs yn rhoi cyfle i chi ddysgu sgiliau newydd a chael profiad o weithio mewn diwydiant penodol, er enghraifft, gofal, adeiladu neu waith warws. Ar ddiwedd y rhaglen, byddwch yn aml yn cael cyfweliad gyda chyflogwr.

Y cynnig:

  • Ar SWAP rydych yn cael
    • hyfforddiant cyn cyflogaeth – modiwl byr o hyfforddiant galwedigaethol a gynhelir gan goleg neu ddarparwr hyfforddiant lleol
    • profiad gwaith gyda chyflogwr, lle gallwch ddysgu sgiliau newydd yn y gwaith
    • ar ddiwedd y rhaglen, naill ai cyfweliad swydd gyda chyflogwr yn y sector neu os nad oes modd cynnig cyfweliad, help gyda’r broses ymgeisio

Ar gael i:

  • Geiswyr Gwaith sy’n hawlio naill ai Credyd Cynhwysol, Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn Lloegr a’r Alban
  • Mae SWAPs yn un o’r cyfleoedd ‘Returnerships’ (gwefan allanol) sydd hefyd ar agor i bobl 50 oed a throsodd yn Lloegr. Mae ‘Returnerships’ yn dod â chyfleoedd hyfforddiant, sgiliau a chymorth at ei gilydd ar gyfer pobl dros 50 oed sy’n edrych i ddychwelyd i’r gwaith.

Amser a math o gwrs:

  • Mae SWAPs yn para hyd at 6 wythnos
  • Gall cyrsiau fod yn yr ystafell ddosbarth, yn y gwaith, ar-lein neu’n gymysgedd

Cost:

  • Am ddim a byddwch yn parhau i dderbyn budd-daliadau wrth gymryd rhan mewn SWAP
  • Os oes angen i chi deithio i weithle gwaith y cyflogwr neu i ble mae’r hyfforddiant yn cael ei gynnal, efallai y byddwch yn gallu cael help i dalu am gost trafnidiaeth gyhoeddus neu ofal plant priodol.

Gwybodaeth bellach:

Darganfyddwch fwy am SWAPs (gwefan allanol). Gallwch hefyd drafod SWAPs gyda’ch anogwr gwaith.

Darganfyddwch am sgiliau a gwaith yn yr Alban (gwefan allanol)  a Chymru (gwefan allanol).