Neidio i’r cynnwys

Bŵtcamp Sgiliau

Two women in protective clothing on a buildig site.

Os ydych am ddiweddaru’ch sgiliau i symud ymlaen yn eich swydd bresennol neu symud i rôl wahanol, gallai Bŵtcamp Sgiliau fod i chi. Byddwch hefyd yn cael cynnig cyfweliad swydd ar ddiwedd y cwrs.

Y cynnig:

  • Cyrsiau am ddim a hyblyg sy’n rhoi’r sgiliau penodol y mae cyflogwyr mewn gwahanol sectorau yn chwilio amdanynt
  • Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r cwrs, byddwch yn cael cynnig cyfweliad swydd gyda chyflogwr

Ar gael i:

  • Bobl dros 19 oed ac sy’n byw yn Lloegr
  • Pobl sy’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig, neu ar hyn o bryd yn ddi-waith
  • Mae gan rai Bŵtcamp Sgiliau feini prawf cymhwysedd ychwanegol. Gallwch wirio hyn gyda’r darparwr hyfforddiant
  • Mae Bŵtcamp Sgiliau yn un o’r cyfleoedd ‘Returnerships’ (gwefan allanol) sydd hefyd ar agor i bobl 50 oed a throsodd yn Lloegr. Mae ‘Returnerships’ yn dod â hyfforddiant, sgiliau a chyfleoedd cymorth at ei gilydd ar gyfer pobl dros 50 oed sy’n edrych i ddychwelyd i’r gwaith.

Amser a math o gwrs:

  • Mae’r Bŵtcamp Sgiliau yn rhoi cyrsiau hyblyg i chi sy’n para hyd at 16 wythnos
  • Gall cyrsiau fod yn yr ystafell ddosbarth, yn y gwaith, ar-lein neu’n gymysgedd

Cost:

  • Am ddim os ydych yn dilyn y cwrs eich hun ac nid trwy’ch cyflogwr
  • Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol, gallwch wneud cais am Fŵtcamp a pharhau i hawlio budd-daliadau tra byddwch ar y cwrs.

Gwybodaeth bellach:

Dysgwch fwy am Fŵtcamp Sgiliau, ble mae nhw ar gael a sut i wneud cais (gwefan allanol).

Dysgwch am sgiliau a gwaith yn yr Alban (gwefan allanol)  a Chymru (gwefan allanol).