Neidio i’r cynnwys

Prif awgrymiadau am lwyddiant mewn cyfweliadau

Top tips for interview success

Mae anogwr gwaith o’r Ganolfan Byd Gwaith yn rhoi eu prif awgrymiadau ar gyfer cyfweliadau.

Gall cyfweliad swydd fod yn brofiad brawychus boed dros y ffôn neu ar-lein. Dywedodd rhywun wrthyf unwaith y byddai’n well ganddynt mynd at y deintydd! Ni waeth pa mor hyderus ydych chi, gall nerfau cael y gorau o unrhyw un unwaith ei fod mewn sefyllfa gyfweld.

1. Darllenwch eich atebion allan yn uchel

Er mwyn rhoi’r cyfle orau i’ch hun, sicrhewch eich bod mor barod ag y gallwch fod. Dywedwch eich atebion yn uchel i ffrind neu aelod o’r teulu. Efallai byddwch yn teimlo’n wirion, ond gall fod yn help mawr wrth ddod dros eich nerfau.

2. Byddwch yn ymwybodol o iaith eich corff

Gall hefyd eich helpu i ddod yn fwy ymwybodol o’ch iaith corfforol y bydd y cyfwelwyr yn talu sylw agos ati os ydych yn gwneud cyfweliad fideo neu dôn eich llais mewn cyfweliad dros y ffôn. Dychmygwch fynd am swydd mewn gofal cymdeithasol, sy’n gymdeithasol ei natur, ac yn creu’r argraff eich bod yn swil neu’n dawedog.

3. Gofynnwch gwestiynau

Cofiwch, mae cyfweliad yn stryd deuffordd. Dylech deimlo’n rhydd i ofyn y recriwtiwr gwestiynau os oes rhywbeth am y rôl neu’r sefydliad rydych am ei wybod. Os nad ydych yn deall cwestiwn sydd wedi cael ei ofyn, nid oes dim yn bod ar ofyn i’ch cyfwelydd ailadrodd neu aralleirio.

4. Arhoswch a meddyliwch

Arhoswch am eiliad i feddwl am eich ymateb yn hytrach na lansio’n syth i mewn. Pan fydd gennych lawer o bethau rydych eisiau eu dweud, gall fod yn demtasiwn i ruthro’r geiriau allan cyn anghofio unrhyw beth, ond gall hynny swnio’n garbwl. Cymerwch anadl, arafu, a gwneud pob pwynt yn glir.

Hyd yn oed os na chewch gynnig y swydd, anaml y mae profiad o gyfweld yn wastraff, yn enwedig os ydych yn gofyn am adborth. Efallai byddwch yn gweld bod ychydig bethau bach y gallwch weithio arnynt i gael y swydd y tro nesaf.

Os ydych angen cymorth pellach gyda chyfweliadau , mae gan LifeSkills, a grëwyd gyda Barclays, fodiwl sy’n ymdrin â phwrpas cyfweliadau swyddi a’r broses o baratoi ar gyfer un. Ewch i wefan LifeSkills i ddarganfod mwy.

Mae canllaw cam wrth gam i’r broses cyfweld ar gael ar wefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol.

Mwy o erthyglau

Interview

Perchen y cyfweliad

Felly gweithiodd eich CV ac rydych drwodd i'r cam cyfweld. Mae gan anogwr gwaith o Ganolfan Byd Gwaith rai awgrymiadau i roi mantais i ...

darllen yr erthyglamPerchen y cyfweliad