Neidio i’r cynnwys

Perchen y cyfweliad

Interview

Felly gweithiodd eich CV ac rydych drwodd i’r cam cyfweld. Mae gan anogwr gwaith o Ganolfan Byd Gwaith rai awgrymiadau i roi mantais i chi.

Newyddion gwych – mae gennych gyfweliad, a chyfle i ddangos iddyn nhw pam mai chi yw’r person iawn ar gyfer y swydd. P’un a ydych yn mynychu’r cyfweliad ar-lein, dros y ffôn neu’n bersonol, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud eich gwaith cartref ac yn barod.

Dyma fy awgrymiadau gorau:

  1. Ymchwiliwch i’r cwmni – Beth maent yn ei wneud? Faint o bobl maent yn eu cyflogi? Beth yw hanes y cwmni?
  2. Mae’n swnio’n sylfaenol, ond penderfynwch beth fyddwch yn ei wisgo. Sicrhewch fod eich dillad yn briodol i’r swydd rydych yn mynd amdani hyd yn oed os yw’n gyfweliad fideo.
  3. Ydych chi wedi meddwl yn galed am ba gwestiynau y gellid eu gofyn i chi? Edrychwch dros eich ffurflen gais yn wrthrychol – beth allech chi ofyn pe byddech yn gyfwelydd?
  4. Ymlaciwch, gwenwch, edrychwch y cyfwelydd lygad yn lygad a defnyddiwch y cyfle i ddweud wrthyn nhw am y pethau gwych rydych wedi’u gwneud.

Pob lwc!

Os ydych angen cymorth pellach gyda chyfweliadau , mae gan LifeSkills, a grëwyd gyda Barclays, fodiwl sy’n ymdrin â phwrpas cyfweliadau swyddi a’r broses o baratoi ar gyfer un. Ewch i wefan LifeSkills i ddarganfod mwy.

Mwy o erthyglau