Neidio i’r cynnwys

Cam 6 – ceisio am swyddi

Pan rydych yn dod o hyd i swydd y mae gennych ddiddordeb ynddo, mae’n amser i wneud cais! Dyma rhai awgrymiadau ar geisiadau swyddi a chyfweliadau.

  • Sicrhewch eich bod yn dilyn y broses recriwtio mae’r cwmni wedi nodi yn yr hysbysiad swydd. Bydd gan bob cyflogwr proses wahanol.
  • Edrychwch yn fanwl ar hysbysiad/disgrifiad y swydd a diweddarwch a theilwrwch eich CV a llythyr eglurhaol fel ei fod yn cydfynd â disgrifiad y swydd. Darganfyddwch fwy ar ein tudalennau CV a llythyr eglurhaol
  • Os yw cyflogwr yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais, peidiwch â digalonni. Mae’n ffordd arall o ddarganfod amdanoch chi, eich sgiliau a’ch profiad. Dylech allu defnyddio rhannau o’ch CV y gallwch eu teilwra i ffitio’r ffurflen. Mae gan ein tudalen ffurflen gais rai awgrymiadau defnyddiol.
  • Ymchwiliwch i’r cwmni – darganfyddwch fwy am y cwmni rydych chi’n gwneud cais iddo. Er enghraifft, darganfyddwch eu blaenoriaethau a’u gwerthoedd busnes. Efallai y bydd yn eich helpu i deilwra’r hyn rydych chi’n ei ddweud yn eich CV neu lythyr eglurhaol. Efallai bydd hyn yn dangos i’r cwmni fod gennych ddiddordeb ynddynt ac wedi gwneud eich gwaith cartref.
  • Efallai y bydd yn cymryd peth amser i gael cyfweliad oherwydd gall pob swydd gael nifer o bobl yn gwneud cais. Peidiwch ag aros i glywed yn ôl o’ch ceisiadau, daliwch ati i wneud cais am swyddi eraill yn y cyfamser.
  • Dechreuwch baratoi ar gyfer cyfweliadau – ewch i’n tudalen cyfweliadau i ddarganfod mwy.
  • Os na chewch gyfweliad, e-bostiwch y cyflogwr a gofynnwch am eu hadborth. Gall hyn fod yn ddefnyddiol wrth wella eich CV a’ch ceisiadau yn y dyfodol.
  • Ni fydd pob cyflogwr yn rhoi gwybod i chi a yw’ch cais wedi bod yn aflwyddiannus. Gall fod yn ofidus anfon cais a pheidio â chael ymateb ond ceisiwch beidio digalonni. Nid yw’n unrhyw beth personol.
  • Cadwch at eich cynllun! Po fwyaf o swyddi addas rydych yn ceisio amdanynt gyda CV a llythyr eglurhaol sydd wedi’i deilwra, y mwyaf y byddwch yn gwella’ch cyfle o gael cyfweliad.

Ewch i’r dudalen nesaf ‘Cam 7 – gwirio ac adolygu’ch cynnydd’  →

Ewch yn ôl i dudalen dewislen ‘Cynllunio eich chwiliad swydd’