Cadw heb gynhyrfu dan bwysau
Gall fod o flaen eraill mewn cyfweliad, am y tro cyntaf mewn sawl blynedd, fod un o’r profiadau mwyaf anodd a brawychus y gallwch eu cael. Mewn byd sydd wedi newid yn syfrdanol dros y misoedd diwethaf, ac mewn marchnad swyddi cystadleuol, gallech boeni bod eich sgiliau o’r oes a fu neu nad ydynt yn berthnasol bellach, a gall hyn gael effaith anferth ar eich hyder.
Ond a ydych wedi ystyried eich sgiliau trosglwyddadwy? Mae cyflogwyr yn adnabod ac yn gwerthfawrogi nad yw bawb yn gyfartal, felly yn aml gall bwysleisio sgiliau trosglwyddadwy fel gweithio mewn tîm, bod yn drefnus, neu brofiad yn arwain bod yn dacteg i llwyddo mewn cyfweliad.
Mae cyrraedd y cyfweliad yn profi eich bod wedi cyrraedd y nod sylfaenol, ond mae’r barnu go iawn yn dechrau wyneb i wyneb, ac mae’n rhaid i chi ddangos y person gorau y gallwch fod. Os ydych yn cael trafferth â’ch hyder – meddyliwch yn ôl i amser yn eich swydd flaenorol pan oeddech yn hyderus – defnyddiwch y teimlad hwnnw a dod ag ef i mewn i’ch enghreifftiau. Fel mewn clyweliad, chewch ond yr un cyfle â hyn felly peidiwch â dal yn ôl o ddangos y sgiliau a’r profiad y gallwch ddod â hwy i’r swydd – dewch â hwy i fyw drwy eu paru â’r meini prawf y mae’r cwmni yn eu disgwyl o’r ymgeisydd gorau – CHI.
Pan ddaw eich tro i berfformio, cofiwch y pwyntiau allweddol hyn:
Gwybodaeth yw nerth
Gwnewch ymchwil i’r cwmni, dylech wybod peth mae’r swydd yn golygu a beth fydd yn ddisgwyl ohonoch os cewch eich cyflogi. Bydd dangos bod gennych ddiddordeb yn y swydd o fudd i unrhyw ymgeisydd.
Cewch ond UN cyfle i wneud yr argraff cyntaf!
Gwisgwch yn smart, a dangos y gallwch cyrraedd safon cod gwisg y cwmni. Efallai eich bod wedi gwisgo’n anffurfiol o’r blaen ond ni fydd hyn yn creu argraff da mewn cyfweliad, ac efallai cewch eich diystyru cyn i chi ddechrau. Peidiwch ag aros tan y munud olaf i drefnu’ch dillad ar gyfer y cyfweliad. Dylai fod gennych rywbeth addas i wisgo bob amser, oherwydd gallwch cael eich synnu gan wahoddiad dirybudd i gyfweliad. Nid oes gwahaniaeth pa fath o swydd yw hi, cofiwch fod yr argraff cyntaf yn cyfrif.
Mae iaith y corff yn dweud cyfrolau
Mae’r hyn rydych yn ei dweud a pha mor hyderus rydych yn ei dweud hi yn bwysig mewn unrhyw gyfweliad ond gallech golli hyn i gyd os yw iaith eich corff yn gwrthddweud y cyfan. Gallai tynnu sylw’r cyfwelwr drwy eistedd yn war crwm, edrych i’r pellter, chwarae gyda phensil, neu wingo gosti cynnig y swydd. Boed felly os ydych yn cyfweld dros fideo neu mewn person, dylech geisio bob tro i gwrdd â llygaid y cyfwelwr, gwenu ac eistedd yn syth yn y gadair, a sicrhau iddynt eich bod yn gwrnado’n astud drwy amneidio i ddangos eich bod yn deall.
Gorau arf arfer
Cymerwch yr amser i ymarfer beth rydych yn mynd i’w ddweud. Y ffordd orau i wneud hyn yw gwneud cyfweliadau ffug. Byddant yn rhoi cyfle i chi baratoi a rhoi eich ymatebion yn hyderus, ond hefyd gan bwyll yn llai nerfus am geisio i feddwl am enghraifft yn y fan a’r lle. Os oes gennych ffrindiau neu deulu a all helpu chi â hyn, manteisiwch ar y cyfle, ond fel arall, edrychwch ar y gwasanaethau sydd ar gael drwy wefan Gyrfa Cymru (Cymru), gwefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol (Lloegr), neu gwefan My World of Work (yr Alban).
Yn olaf… peidiwch â chael eich dal allan ar-lein
Bydd cyflogwyr yn aml yn defnyddio’r rhyngrwyd i edrych amdanoch cyn cynnig swydd i chi. Dyma le gall llawer ennyn gwg. Sut mae eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn edrych i rywun o’r tu allan? Gwiriwch eich gosodiadau preifatrwydd i stopio unrhyw archwiliadau dieisiau.
Cofiwch, ni waeth pa faint o amser y mae wedi bod ers eich cyfweliad diwethaf, dyma’ch cyfle i arddangos eich sgiliau yn y golau gorau posibl. Bydd treulio’r amser i ymchwilio ac ymarfer o flaen llaw yn helpu i roi’r hyder sydd angen arnoch i sefyll allan, ac yn ei dro, yn rhoi’r siawns orau posibl i chi gael y swydd.