- Rhestrwch eich profiad yn nhrefn dyddiad gyda’r diweddaraf yn gyntaf. Gallwch hefyd nodi am ba mor hir yr oeddech ym mhob rôl, yn enwedig os yw swydd flaenorol yn gysylltiedig yn uniongyrchol i’r un rydych yn ceisio amdano.
- Mae penderfynu ar faint o hanes gyrfa i’w gynnwys ar eich CV yn gallu bod yn heriol. Cofiwch bod safon yn well na maint.
- Mae’n iawn i adael allan manylion o swyddi sy’n llai perthnasol i’r rôl rydych yn ceisio amdano, a thynn sylw at y profiadau a’r sgiliau mwyaf perthnasol o restr hir o swyddi blaenorol.
- Os ydych wedi cynnwys dyddiadau cyflogaeth yn eich hanes, esboniwch unrhyw fylchau cyflogaeth. Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi bod allan o waith ar ryw adeg, felly esboniwch yn gryno a nodwch unrhyw sgiliau bywyd neu drosglwyddadwy rydych wedi’u hennill.
Ewch i’r dudalen nesaf ‘Dim profiad gwaith?’ →
← Ewch yn ôl i dudalen dewislen ‘Gwneud i’ch CV sefyll allan’