Neidio i’r cynnwys

Sut i ddod o hyd i waith hyblyg

Cyn i chi ddechrau eich chwiliad swydd, mae’n bwysig bod gennych syniad clir o’r math o hyblygrwydd y byddech ei angen yn eich swydd nesaf i gael cydbwysedd gwaith a bywyd da.

Cwestiynau i ofyn i’ch hun

Dyma rhai o’r cwestiynau gallwch ofyn i’ch hun:

  • Faint o oriau gwaith yr wythnos fyddai’n addas i chi a’ch amgylchiadau? Wrth gwrs, bydd hefyd angen i chi ystyried faint y bydd angen i chi ei ennill.
  • Pa amseroedd fyddai’n gweddu orau i chi? Allwch ddechrau yn gynnar neu orffen yn hwyr? A allwch weithio bob dydd neu a oes unrhyw ddiwrnodau na allwch weithio?
  • Pa mor hyblyg allwch chi fod?
  • A fyddai gweithio o bell rywfaint neu’r cyfan o’r amser yn eich helpu chi?
  • Pa mor bell a pha mor aml allwch chi deithio i’r gwaith?
  • Faint fyddai’r teithio i’r gwaith yn ei gostio, ac a fyddech chi’n gallu ei fforddio?

Unwaith y bydd gennych ddarlun clir o beth rydych yn chwilio amdano, mae’n amser i chwilio am y cyfle gweithio hyblyg cywir.

Ble i edrych am waith hyblyg

Gallwch ddechrau eich chwiliad drwy edrych am wefannau a recriwtwyr sy’n arbenigo mewn gweithio hyblyg. Er enghraifft, mae Timewise (gwefan allanol) yn hysbysebu rolau hyblyg a rhan-amser. Maent hefyd yn darparu cyngor ar chwilio am gyfleoedd gweithio hyblyg.

Gallwch hefyd defnyddio gwefannau chwiliad swydd fwy cyffredinol fel Dod o hyd i swydd (gwefan allanol). Mae ganddynt declynnau i’ch helpu i ddod o hyd i swyddi gyda rhyw fath o drefniant hyblyg. Gallwch ychwanegu allweddeiriau fel ‘rhan-amser’, ‘gweithio o bell’, ‘hybrid’ neu ‘hyblyg’ ac yna gwirio’r hysbysiadau swyddi gwag sydd yn y canlyniadau chwilio.

Beth os nad oes son am hyblygrwydd yn yr hysbysiad swydd?

Bydd hysbysiadau swyddi, p’un a ydynt ar-lein neu mewn papur newydd ayyb, yn aml yn nodi’r oriau gwaith a’r potensial am hyblygrwydd.

Ond mae hefyd yn debygol y byddwch yn dod o hyd i gyfle swydd sy’n berffaith i chi ond nid oes son am weithio hyblyg. Beth ddylech chi ei wneud?

Peidiwch â’i ddiystyru. Os nad yw’r hysbysiad yn son am hyblygrwydd, nid yw’n golygu na fydd y cyflogwr yn ei ystyried os ydych chi’n ddewis iawn ar gyfer y swydd. Yn yr achos hwn, fe allech chi fynd at y cyflogwr / rheolwr cyflogi i ddarganfod a yw’r cwmni’n agored i drefniadau gweithio hyblyg.

Dylech allu dod o hyd i enw neu fanylion cyswllt y rheolwr cyflogi yn y disgrifiad swydd neu’r pecyn ymgeisydd.

Os ydych yn gwybod enw’r rheolwr cyflogi yn unig, gallwch chwilio am eu cyfeiriad e-bost gan ddefnyddio Google, Twitter, LinkedIn a gwefannau cyfryngau cymdeithasol eraill.

Ar ôl i chi gael eu manylion cyswllt gallwch gysylltu â’r rheolwr cyflogi yn uniongyrchol trwy e-bost neu ffôn.

Ewch i’r dudalen nesaf ‘Sut i wneud cais i weithio’n hyblyg’

Ewch yn ôl i’r dudalen dewislen ‘Gweithio hyblyg’