Neidio i’r cynnwys

Sut i wneud cais i weithio’n hyblyg

Two men discussing an obscured iPad screen

Os ydych yn gyflogai, mae gennych hawl statudol (cyfreithiol) i ofyn am weithio’n hyblyg o ddiwrnod cyntaf eich cyflogaeth.

Bydd gennych hawl i ddau gais y flwyddyn – a bydd angen i gyflogwyr ymateb o fewn dau fis.

Gall eich cyflogwr dderbyn, derbyn yn rhannol neu wrthod eich cais yn seiliedig ar anghenion y busnes.

Cael sgwrs gyda’ch cyflogwr yn gyntaf

Cyn ysgrifennu cais ffurfiol i weithio’n hyblyg, yn gyffredinol mae’n syniad da i gael trafodaeth gyda’ch cyflogwr.

Wrth wneud hyn gallwch:

  • Ddweud wrthynt am eich bwriad i gyflwyno cais statudol i weithio’n hyblyg
  • Gofyn am bolisi gweithio hyblyg y cwmni
  • Esbonio pam mae angen trefniant newydd arnoch ar gyfer eich oriau gwaith (er enghraifft, gofal plant neu gyfrifoldebau gofalu, lleihau cost ac amser eich taith i’r gwaith, ymddeol yn raddol) a sut y gallai hyn gael effaith gadarnhaol ar eich lles a’ch cynhyrchiant
  • Dangos eich bod wedi deall y cyfnodau gwaith dwys ac ysgafn yn ystod yr wythnos, a’ch bod yn hyblyg a’n fodlon cyfaddawdi er mwyn osgoi unrhyw golled mewn cynhyrchiant.

Gelwir dangos sut bydd y patrwm gweithio hyblyg yn eu elwa hwy yn ogystal â chi yn ‘creu achos busnes’

Gwneud cais ffurfiol

Ar ôl y sgwrs gychwynnol hon gyda’ch cyflogwr, mae’n amser rhoi eich cais ffurfiol yn ysgrifenedig. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am wneud cais gweithio hyblyg ar wefan acas (gwefan allanaol) gan gynnwys templed llythyr cais. Mae yna hefyd fwy o wybodaeth ar weithio hyblyg ar gov.uk (gwefan allanol).

Dylai eich cyflogwr ymateb i’ch cais o fewn 3 mis o wneud y cais ysgrifenedig. Gallai gymryd yn hirach os ydych wedi cytuno hwn gyda nhw.

Os ydych yn rhiant neu’n gofalwr sydd eisiau newid eich oriau gwaith, gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar weithio hyblyg gan Working Families (gwefan allanol).

Ewcj i’r dudalen nesaf ‘Gweithio o bell’

Ewch yn ôl i’r dudalen dewislen ‘Gweithio hyblyg’