Unwaith y bydd gennych ddarlun clir o beth rydych yn chwilio amdano, mae’n amser i chwilio am y cyfle gweithio hyblyg cywir.
Ble i edrych am waith hyblyg
Gallwch ddechrau eich chwiliad drwy edrych am wefannau a recriwtwyr sy’n arbenigo mewn gweithio hyblyg. Er enghraifft, mae Timewise (gwefan allanol) yn hysbysebu rolau hyblyg a rhan-amser. Maent hefyd yn darparu cyngor ar chwilio am gyfleoedd gweithio hyblyg.
Gallwch hefyd defnyddio gwefannau chwiliad swydd fwy cyffredinol fel Dod o hyd i swydd (gwefan allanol). Mae ganddynt declynnau i’ch helpu i ddod o hyd i swyddi gyda rhyw fath o drefniant hyblyg. Gallwch ychwanegu allweddeiriau fel ‘rhan-amser’, ‘gweithio o bell’, ‘hybrid’ neu ‘hyblyg’ ac yna gwirio’r hysbysiadau swyddi gwag sydd yn y canlyniadau chwilio.
Beth os nad oes son am hyblygrwydd yn yr hysbysiad swydd?
Bydd hysbysiadau swyddi, p’un a ydynt ar-lein neu mewn papur newydd ayyb, yn aml yn nodi’r oriau gwaith a’r potensial am hyblygrwydd.
Ond mae hefyd yn debygol y byddwch yn dod o hyd i gyfle swydd sy’n berffaith i chi ond nid oes son am weithio hyblyg. Beth ddylech chi ei wneud?
Peidiwch â’i ddiystyru. Os nad yw’r hysbysiad yn son am hyblygrwydd, nid yw’n golygu na fydd y cyflogwr yn ei ystyried os ydych chi’n ddewis iawn ar gyfer y swydd. Yn yr achos hwn, fe allech chi fynd at y cyflogwr / rheolwr cyflogi i ddarganfod a yw’r cwmni’n agored i drefniadau gweithio hyblyg.
Dylech allu dod o hyd i enw neu fanylion cyswllt y rheolwr cyflogi yn y disgrifiad swydd neu’r pecyn ymgeisydd.
Os ydych yn gwybod enw’r rheolwr cyflogi yn unig, gallwch chwilio am eu cyfeiriad e-bost gan ddefnyddio Google, Twitter, LinkedIn a gwefannau cyfryngau cymdeithasol eraill.
Ar ôl i chi gael eu manylion cyswllt gallwch gysylltu â’r rheolwr cyflogi yn uniongyrchol trwy e-bost neu ffôn.
Ewch i’r dudalen nesaf ‘Sut i wneud cais i weithio’n hyblyg’ →