Neidio i’r cynnwys

Help gyda chostau gofal plant a chymorth arall i deuluoedd

Dyn a menyw â phlentyn yn rhoi arian mewn banc mochyn. Yn cysylltu i Help gyda chostau gofal plant a chymorth arall i deuluoedd

Mae yna adegau pan fydd cyfuno gwaith a gofalu am blant yn heriol, ond mae cymorth ar gael i’ch helpu i wneud i’ch swydd weithio i chi.

Os ydych yn rhiant sy’n ystyried mynd i weithio, neu gynyddu eich oriau gwaith ac ennill mwy, gallech gael help gyda  chost gofal plant.  Gallai hyn olygu bod mwy o gyfleoedd gwaith ar gael i chi, a gallai ei gwneud ychydig yn haws jyglo teulu â rôl foddhaus yn y gwaith.

(Os ydych yn edrych am wybodaeth am weithio mewn gofal plant ac addysg cynnar, darganfyddwch fwy ar ein tudalen sector gofal plant)

Credyd Cynhwysol a gofal plant

  • Os ydych yn gweithio ac yn hawlio Credyd Cynhwysol, gallwch  gael help gyda chostau gofal plant, waeth faint o oriau rydych yn eu gweithio. Efallai y byddwch yn gallu hawlio hyd at 85% o’ch costau gofal plant.

Cymorth ychwanegol sydd nawr ar gael

  • Mae rhieni sy’n gweithio ac ar Gredyd Cynhwysol bellach yn gallu cael cymorth ariannol pellach gyda’u costau gofal plant. Gallai hyn fod hyd at £1,014 ar gyfer un plentyn, neu hyd at £1,739 ar gyfer dau blentyn neu fwy.
  • Efallai y bydd rhieni cymwys sy’n hawlio Credyd Cynhwysol  hefyd yn gallu cael help gyda’u costau gofal plant  ymlaen llaw.
  • Dylai rhieni sy’n symud i weithio neu’n cynyddu eu horiau gwaith siarad â’u hanogwr gwaith Credyd Cynhwysol a all ddarparu mwy o wybodaeth.
  • Darganfyddwch fwy am gostau gofal plant Credyd Cynhwysol ar GOV.UK (gwefan allanol).

Dewisiadau gofal plant

  • Mae amrywiaeth o gymorth gan y Llywodraeth gyda chostau gofal plant, fel gofal plant di-dreth neu ofal plant 15 neu 30 awr am ddim. Os oes gennych blant bach neu bobl ifanc, gallech gael cymorth. Darganfyddwch fwy yn Dewisiadau Gofal Plant (gwefan allanol).

 Opsiynau gwaith i rieni

Ydych chi’n rhiant sy’n ystyried dychwelyd i’r gwaith? Neu a ydych yn ystyried dod o hyd i rôl newydd sy’n fwy addas i’ch ffordd o fyw a’ch cyfrifoldebau teuluol? Mae nifer o opsiynau y gallech eu hystyried. Dyma ychydig o wybodaeth a chyngor i’ch helpu i ddechrau arni.

Gweithio hyblyg

  • Os na allwch weithio’n llawn amser, nid yw’n golygu na allwch weithio o gwbl.
  • Mae llawer o gyflogwyr yn cynnig gweithio hyblyg sy’n cynnwys rhannu swyddi ac oriau rhan amser, felly gallwch barhau i weithio ac ennill cyflog mewn ffordd sy’n addas i chi a’ch teulu. Efallai y byddant hefyd yn cynnig cyfle i weithio gartref neu mewn lleoliad sy’n gyfleus i chi.
  • Darganfyddwch fwy am y mathau o drefniadau hyblyg sydd ar gael a sut y gallant eich helpu ar ein tudalen gweithio hyblyg.

Datblygu eich sgiliau

Gallai’r sgiliau rydych wedi’u datblygu fel rhiant fod o werth mawr i gyflogwyr.  Ond os ydych am adnewyddu neu adeiladu  ar eich sgiliau, neu roi cynnig ar rywbeth hollol newydd, dyma rai opsiynau.

  • Gall gwefan Skills for Life (gwefan allanol) eich helpu i ddod o hyd i  gyfleoedd dysgu a chymwysterau newydd i wella’ch siawns o ddod o hyd i waith. Mae hyn yn cwmpasu pob math o ddysgu, o loywi byr i ‘Bootcamps Sgiliau’ ar gyfer sectorau penodol, i brentisiaethau lle rydych yn dysgu wrth wneud swydd go iawn.
  • Darganfyddwch fwy am gyfleoedd sy’n eich galluogi i weithio wrth hyfforddi ar ein tudalen Sgiliau a hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith.

Dychwelyd i’r gwaith

  • Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau chwilio am swydd, dilynwch ein pedwar cam hawdd i  wella’ch siawns o ddod o hyd i waith. Mae’r rhain yn ymdrin â sut i ddarganfod beth rydych yn dda am ei wneud, i ysgrifennu’ch CV ac i wneud cais am swyddi.
  • Angen diweddaru eich CV neu greu un newydd? Gall ein tudalen CVs a llythyrau eglurhaol helpu.
  • Mae gan rai diwydiannau fwy o swyddi nag eraill, ac mae gan rai gyfleoedd gwaith mwy hyblyg. Gallwch ddarllen mwy am y rhain ar ein tudalennau sectorau. Mae yna hefyd wybodaeth i’ch helpu i ddechrau gweithio mewn diwydiant nad ydych wedi gweithio ynddo o’r blaen.
  • Defnyddiwch y Dod o hyd i Swydd (gwefan allanol). Gyda Dod o Hyd i Swydd gallwch greu proffil, llwytho eich CV a derbyn rhybuddion e-bost am swyddi newydd a phresennol mewn sector sy’n gweithio i chi.
  • Mae digon o safleoedd swyddi eraill ar gael hefyd. Ceisiwch chwilio am ‘jobs’ yn Google neu wneud eich chwiliad yn fwy penodol i ddod o hyd i’r swyddi gwag iawn i chi, fel ‘retail jobs  yn Leeds’.

Meddyliwch am waith gwirfoddol

Cymorth ariannol i deuluoedd

P’un a ydych yn gofalu am blant yn barod, neu’n bwriadu cael neu fabwysiadu plentyn, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth arall i’ch teulu (gwefan allanol). Mae’n cynnwys tâl mamolaeth a thadolaeth, Budd-dal Plant, cymorth i blant anabl a phrydau ysgol am ddim.