Gall gweithio hyblyg rhoi’r cyfle i chi ehangu eich chwiliad swydd i swyddi mwy bodlon ac sy’n talu’n well, wrth gadw cydbwysedd gwaith a bywyd da. Gallai hefyd eich helpu i aros mewn gwaith os yw’ch amgylchiadau personol yn newid.
Gyda gweithio hyblyg gallwch elw o:
- Amser ychwanegol ar gyfer gofal plant, fel mynd a’ch plant i ac o’r ysgol bob dydd
- Mwy o amser i ofalu am aelod o’r teulu neu ffrind sydd efallai angen gofal neu gefnogaeth parhaus
- Arbedion ar yr amser a chost teithio i’r gwaith
- Lles meddyliol a chorfforol gwell oherwydd cydbwysedd gwaith a bywyd gwell a llai o straen yn eich bywyd
- Mwy o foddhad swydd a chynhyrchedd
Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd, gall trefniadau gweithio hyblyg hefyd bod yn ffordd i’ch helpu i gael neu aros mewn swydd.
Cymerwch olwg ar sut wnaeth gweithio hyblyg a chymorth gyda chostau gofal plant helpu Victoria i ddod o hyd i’r swydd iawn.
Ewch i’r dudalen nesaf ‘Ydy gweithio hyblyg yn iawn i fi?’ →