Neidio i’r cynnwys

CANLLAW CYFLYM I BROFIAD GWAITH

Os ydych newydd adael yr ysgol neu’r coleg, efallai y byddwch yn meddwl nad oes gennych y profiad y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.

Pam profiad gwaith?

Mae gwneud rhywfaint o brofiad gwaith yn ffordd wych o lenwi’r bwlch hwnnw, gan roi’r cyfle i chi:

  • Ddangos eich sgiliau a’ch galluoedd presennol mewn gweithle go iawn.
  • Datblygu sgiliau newydd.
  • Rhoi gynnig ar fath penodol o swydd, a all eich helpu i benderfynu os gallai fod eich cam nesaf gorau.
  • Adeiladu eich rhwydwaith o gysylltiadau, a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer cyfleoedd gwaith yn y dyfodol neu gael geirdaon.

Mae’r rhan fwyaf o brofiad gwaith yn ddi-dâl, ond mae rhai cyfleoedd lle gallwch ennill arian. Yn bwysicaf oll, bydd yn rhoi mwy i chi ychwanegu at eich CV ac yn gwneud i chi sefyll allan o’r dorf.

Peidiwch â phoeni os nad yw cyfle profiad gwaith yn yr union fath o swydd rydych ei heisiau. Canolbwyntiwch ar beth y gallwch ei ennill ohono, p’un a yw’n sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd neu hyd yn oed darganfod mwy amdanoch chi’ch hun. Bydd gwneud unrhyw brofiad gwaith yn dangos i gyflogwr posibl eich bod yn awyddus i weithio a bod gennych agwedd iach tuag at hunanddatblygiad.

Beth yw profiad gwaith?

Mae mathau o brofiad gwaith yn cynnwys:

  • Lleoliadau gwaith sy’n golygu gwneud swydd gyda chyflogwr am gyfnod byr. Gallai hyn fod yn llawn amser dros gyfnod o 1 neu 2 wythnos neu fwy, neu’n mynd i weithle am 1 neu 2 ddiwrnod yr wythnos.
  • Cysgodi swydd sy’n gyfle i wylio rhywun yn gwneud gwaith am ddiwrnod neu ychydig ddyddiau i’ch helpu i ddarganfod mwy am swydd
  • Interniaethau sy’n gyfnodau o brofiad gwaith â thâl sy’n para 2 i 3 mis yn yr haf. Maent fel arfer wedi’u hanelu at israddedigion a graddedigion diweddar ond gallant gynnwys rhai sy’n gadael yr ysgol.
  • Profiad gwaith hybrid neu rithiol – Mae mwy o leoliadau bellach yn cynnwys gweithio ‘hybrid’. Mae hyn yn golygu gweithio rhywfaint o’r amser o bell gan ddefnyddio technoleg ddigidol, a rhywfaint o fynd i’r gweithle. Mae rhai cyflogwyr hefyd yn cynnig lleoliadau cwbl ‘rhithiol’ lle rydych yn gweithio o bell ac nad oes rhaid i chi fynd i’r gweithle o gwbl.
  • Cyrsiau hyfforddi sy’n cynnig lleoliadau profiad gwaith wedi eu cynnwys ynddynt sy’n gallu bod yn opsiwn. Darganfyddwch fwy ar ein tudalen sgiliau ar gyfer gwaith.
  • Gwirfoddoli sy’n ffordd wych o gael profiad wrth roi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned neu gefnogi achos rydych yn angerddol amdano. Darganfyddwch fwy ar ein tudalen gwirfoddoli.

Sut i ddod o hyd i gyfleoedd profiad gwaith?

Mae’r ffyrdd y gallwch ddod o hyd i gyfleoedd profiad gwaith yn cynnwys:

  • Siarad â’ch teulu a’ch ffrindiau – gallai bod ganddynt syniadau neu gysylltiadau.
  • Mynd at fusnesau rydych yn eu defnyddio neu asiantaethau recriwtio i ofyn am gyngor, neu hyd yn oed cynnig eich CV iddynt.
  • Cysylltu â’ch athrawon neu diwtoriaid os ydych newydd adael yr ysgol neu’r coleg.
  • Cysylltu â chyflogwyr rydych wedi gweithio iddynt o’r blaen, er enghraifft, os oedd gennych swydd ran-amser yn y coleg, neu gyfnod byr o brofiad gwaith yn yr ysgol.
  • Edrych ar wefannau cyflogwyr lleol i gael gwybod beth maent yn ei gynnig.
  • Cael cyngor gan ymgynghorydd gyrfaoedd yn yr ysgol neu’r coleg.

Sut gall fy Nghanolfan Byd Gwaith lleol helpu?

Os ydych ar fudd-daliadau ac yn chwilio am waith, gall y Ganolfan Byd Gwaith eich helpu i ddod o hyd i gyfleoedd, gan gynnwys profiad gwaith, gwirfoddoli a threialon gwaith. Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael help gyda chostau fel gofal plant a theithio. Os oes gennych anogwr gwaith, byddant yn gallu dweud wrthych am unrhyw reolau budd-daliadau a allai fod yn berthnasol.

Gofynnwch i’ch anogwr gwaith am y Cynnig Ieuenctid (gwefan allanol). Gall cefnogaeth gynnwys:

  • Profiad gwaith – os ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) neu Gredyd Cynhwysol, gallwch gael profiad gwaith drwy’r Ganolfan Byd Gwaith. Gall hyn bara rhwng 2 ac 8 wythnos, ac fel arfer bydd disgwyl i chi weithio rhwng 25 a 30 awr yr wythnos. Byddwch yn parhau i gael eich JSA neu daliad Credyd Cynhwysol cyhyd â’ch bod yn parhau i chwilio am waith.
  • Gwirfoddoli – os ydych yn ddi-waith ac yn chwilio am waith, bydd eich anogwr gwaith Canolfan Byd Gwaith yn eich helpu i ddod o hyd i gyfle gwirfoddoli.
  • Treialon gwaith – rhoi cyfle i chi roi cynnig ar swydd a pharhau i gael budd-daliadau. Gall bara hyd at 30 diwrnod gwaith, ac efallai y cewch gynnig swydd ar y diwedd.

Darganfyddwch sut i gysylltu â’ch Canolfan Byd Gwaith leol.

Ewch i’r dudalen nesaf ‘Gwirfoddoli – y ‘cymysgedd cyfrinachol’ i gael swydd’ →

← Yn ôl i’r dudalen dewislen ‘Ifanc ac yn chwilio am waith?’