Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gael profiad gwerthfawr, cwrdd â phobl newydd a rhoi help llaw.
Pan fyddwch yn chwilio am waith gwirfoddol, meddyliwch am beth sy’n eich cyffroi a pha achosion rydych yn pryderu amdanynt. Dewch o hyd i rywbeth sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau, a byddwch yn cael hwyl yn gwneud gwahaniaeth.
Dyma saith ffordd o ddod o hyd i rôl wirfoddolwr.
1. Chwilio platfformau ar-lein
- Ewch ar-lein a chwiliwch am ‘wirfoddoli yn agos ataf’ neu edrychwch drwy Do-it.org (gwefan allanol), Vinspired (gwefan allanol) a Volunteering Matters (gwefan allanol).
- Mae’r gwefannau hyn fel trysorau sy’n llawn gigs gwirfoddol ar draws pob math o ddiddordebau a lleoliadau. Gallwch chwilio am gyfleoedd sy’n cyd-fynd â beth rydych yn hoffi ei wneud neu eisiau ei archwilio.
2. Neidiwch i mewn i ddigwyddiadau
- Yn caru digwyddiadau a gwyliau? Mae llawer ohonynt angen gwirfoddolwyr i helpu fel bod pethau yn rhedeg yn esmwyth. Edrychwch ar wefannau digwyddiadau neu estyn allan at drefnwyr yn uniongyrchol i weld a oes angen pâr ychwanegol o ddwylo arnynt.
3. Edrychwch ar wefannau elusen
- Mae llwyth o elusennau a grwpiau dielw yn hysbysebu agoriadau i wirfoddolwyr ar eu gwefannau eu hunain. Felly, os ydych yn chwilio am achos neu sefydliad penodol, ewch draw i’w safle a chwiliwch am eu hadran gwirfoddoli. Yn aml mae ganddynt yr holl fanylion am sut y gallwch gymryd rhan.
- Gallwch hefyd edrych ar wefan CharityJob (gwefan allanol) lle mae llawer o rolau gwirfoddoli yn cael eu hysbysebu mewn un lle.
4. Cysylltwch â sefydliadau paru lleol
- Mae eich canolfan wirfoddoli leol (gwefan allanol) yn fan gwych i ddod o hyd i gyfleoedd. Mae ganddynt y wybodaeth am beth sy’n digwydd yn eich ardal a gallant eich helpu i’ch paru chi gyda rôl yn seiliedig ar beth yw eich diddordebau a pha sgiliau sydd gennych.
5. Byddwch yn glyfar gyda chyfryngau cymdeithasol
- Wrth i chi sgrolio trwy’r cyfryngau cymdeithasol, ymunwch â grwpiau cymunedol, dilynnwch elusennau lleol, a chysylltwch â sefydliadau ar lwyfannau fel Instagram, X, Snapchat, Facebook a LinkedIn.
- Weithiau, mae cyfleoedd yn ymddangos ar y sianeli hyn, ac efallai mai chi fydd y cyntaf i gael gafael ynddynt!
6. Peidiwch ag anghofio eich ysgol neu brifysgol
- Os ydych chi’n dal i astudio, efallai y bydd gan eich ysgol neu brifysgol rai rhaglenni gwirfoddoli neu gysylltiadau ag elusennau.
- Galwch i mewn i’ch swyddfa gyrfaoedd neu undeb myfyrwyr a gweld beth sy’n dod i fyny yn yr adran wirfoddoli.
7. Rhaglenni Llywodraeth a Chynghorau Lleol
- Yn aml mae gan gynghorau lleol a rhaglenni’r llywodraeth gyfleoedd gwirfoddoli. Cadwch lygad ar wefan eich cyngor a newyddion lleol am unrhyw beth sy’n cael ei redeg gerllaw.
Ar ôl i chi ddod o hyd i gig sy’n addas, rhowch wybod i’r sefydliad eich bod yn awyddus i helpu. Dywedwch wrthynt am eich sgiliau, pryd rydych ar gael, a faint o amser y gallwch ei roi.
Byddwch yn barod am antur wirfoddoli anhygoel!
Ewch i’r dudalen nesaf ‘5 awgrym am lwyddiant mewn cyfweliad’ →
← Yn ôl i’r dudalen dewislen ‘Ifanc ac yn chwilio am waith?’