Mae SWAPs yn rhoi cyfle i chi ddysgu sgiliau newydd a chael profiad o weithio mewn diwydiant penodol, er enghraifft, gofal, adeiladu neu waith warws. Ar ddiwedd y rhaglen, byddwch yn aml yn cael cyfweliad gyda chyflogwr.
Y cynnig:
- Ar SWAP rydych yn cael
- hyfforddiant cyn cyflogaeth – modiwl byr o hyfforddiant galwedigaethol a gynhelir gan goleg neu ddarparwr hyfforddiant lleol
- profiad gwaith gyda chyflogwr, lle gallwch ddysgu sgiliau newydd yn y gwaith
- ar ddiwedd y rhaglen, naill ai cyfweliad swydd gyda chyflogwr yn y sector neu os nad oes modd cynnig cyfweliad, help gyda’r broses ymgeisio
Ar gael i:
- Geiswyr Gwaith sy’n hawlio naill ai Credyd Cynhwysol, Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn Lloegr a’r Alban
- Mae SWAPs yn un o’r cyfleoedd ‘Returnerships’ (gwefan allanol) sydd hefyd ar agor i bobl 50 oed a throsodd yn Lloegr. Mae ‘Returnerships’ yn dod â chyfleoedd hyfforddiant, sgiliau a chymorth at ei gilydd ar gyfer pobl dros 50 oed sy’n edrych i ddychwelyd i’r gwaith.
Amser a math o gwrs:
- Mae SWAPs yn para hyd at 6 wythnos
- Gall cyrsiau fod yn yr ystafell ddosbarth, yn y gwaith, ar-lein neu’n gymysgedd
Cost:
- Am ddim a byddwch yn parhau i dderbyn budd-daliadau wrth gymryd rhan mewn SWAP
- Os oes angen i chi deithio i weithle gwaith y cyflogwr neu i ble mae’r hyfforddiant yn cael ei gynnal, efallai y byddwch yn gallu cael help i dalu am gost trafnidiaeth gyhoeddus neu ofal plant priodol.
Gwybodaeth bellach:
Darganfyddwch fwy am SWAPs (gwefan allanol). Gallwch hefyd drafod SWAPs gyda’ch anogwr gwaith.
Darganfyddwch am sgiliau a gwaith yn yr Alban (gwefan allanol) a Chymru (gwefan allanol).