Mae Logisteg yn ddiwydiant eang iawn, yn aml yn cael ei ddefnyddio i siarad am gludo, dosbarthu neu storio nwyddau. O fewn hynny mae nifer o wahanol feysydd o’r gadwyn gyflenwi i weithgynhyrchu cerbydau, a chynllunio trafnidiaeth i reoli traffig, felly mae’n cynnig ystod enfawr o gyfleoedd. Dyma ychydig o enghreifftiau o’r rolau amrywiol sydd ar gael:
- Gyrrwyr HGV
- Gwasanaethau Bws, Tram a choets (gan gynnwys gyrrwyr)
- Gweithredwyr Warws (gan gynnwys pigwyr stoc a gweithredwyr fforch godi)
- Diogelwch
- Gweinyddiaeth
- Glanhawyr