Mae prentisiaeth yn swydd go iawn gyda’r cyfle i ennill cyflog wrth i chi ddysgu ac ennill profiad.
Gall enwau prentisiaethau amrywio yn ôl lefel y cymhwyster y gellir ei gyflawni arnynt, ac a ydynt ar gael yng Nghymru a Lloegr ac yn yr Alban.
Y cynnig:
- Mae prentis yn gweithio tuag at gymwysterau mewn un o ystod eang o broffesiynau a chrefftau, felly gallech orffen gyda chymwysterau achrededig o Lefel 2 (sy’n cyfateb i TGAU) hyd at Lefel 7 (cyfwerth â gradd Meistr)
Ar gael i:
- Bobl 16 oed neu drosodd
- Nid oes terfyn oedran uwch, felly gall prentisiaethau fod yn addas i bobl ar unrhyw adeg o’u bywydau gwaith
- Mae prentisiaethau yn un o’r cyfleoedd ‘Returnerships’ (gwefan allanol) sydd hefyd ar agor i bobl 50 oed a throsodd yn Lloegr. Mae ‘Returnerships’ yn dod â hyfforddiant, sgiliau a chyfleoedd cymorth at ei gilydd ar gyfer pobl dros 50 oed sydd yn edrych i ddychwelyd i’r gwaith.
Amser a math o gwrs:
- Mae prentisiaethau’n para am un i bum mlynedd, yn dibynnu ar y pwnc, y lefel a’ch profiad.
- Gallwch ddisgwyl treulio 80% o’ch amser mewn hyfforddiant mewn gwaith a phrofiad gwaith, ac 20% yn astudio yn yr ystafell ddosbarth, yn aml mewn coleg, prifysgol neu ddarparwr hyfforddiant.
- Mae cyfleoedd mewn llawer o ddiwydiannau gwahanol, a gyda chyflogwyr mawr a bach
Cost:
- Am ddim i chi. Mae eich cyflogwr yn talu eich cyflog, ac mae eich hyfforddiant a’ch addysg yn cael ei ariannu gan y llywodraeth a’ch cyflogwr.
Gwybodaeth bellach:
Darganfyddwch fwy am brentisiaethau (gwefan allanol) a phori’r hyn sydd ar gael yn eich ardal chi.
Gallai’r math o brentisiaethau sydd ar gael i chi yn dibynnu a ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban. Er enghraifft, mae prentisiaethau graddedig, sylfaen a modern yn yr Alban, prentisiaethau carlam yn Lloegr a phrentisiaethau gradd yng Nghymru a Lloegr.
Darganfyddwch fwy am brentisiaethau yn: