Neidio i’r cynnwys

Prif awgrymiadau am fynd i’r afael â ffurflen gais ‘yn seiliedig ar gymhwysedd’

completing application form

Mae lawer o wahanol fathau o ffurflenni cais am swydd ond yn aml bydd cyflogwyr yn defnyddio ffurflen ‘yn seiliedig ar gymhwysedd’ i’w helpu i ddod o hyd i’r person iawn. Mae anogwr gwaith o’r Ganolfan Byd Gwaith yn rhannu eu cyngor ar sut i fynd i’r afael â’r math hwn o gais.

Mae ffurflenni cais yn seiliedig ar gymhwysedd yn gofyn i chi ysgrifennu rhwng 250 a 300 gair ar wahanol ‘gymwyseddau’ – er enghraifft, gwneud penderfyniadau, datrys problemau neu weithio mewn tîm.

Gall hyn fod yn frawychus, ond mae hefyd yn gyfle gwych i werthu’ch hun i ddarpar gyflogwr. Dyma fy nghyngor ar sut i fynd i’r afael â’r math hwn o ffurflen:

  • Yn aml mae gan geisiadau yn seiliedig ar gymhwysedd lawer o wahanol adrannau a gallant gymryd cryn amser i’w cwblhau – wrth hyn rwy’n golygu sawl diwrnod, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn caniatáu digon o amser i’ch hun.
  • Creu dogfen ‘Word’ i ddrafftio pob ateb cyn ei throsglwyddo i’r ffurflen gais. Gallwch ddefnyddio hwn fel lle i roi’ch holl syniadau i lawr cyn eu llunio mewn ymateb.
  • Peidiwch â mynd dros y terfyn geiriau ar gyfer pob adran. Efallai bod gennych lawer o enghreifftiau gwych, ond mae’r terfyn geiriau yno hefyd i weld a allwch ysgrifennu mewn ffordd glir a chryno. Ar yr un pryd, gwnewch yn siŵr eich bod yn ysgrifennu digon i ddangos bod gennych chi’r sgiliau sy’n ofynnol!
  • Ar gyfer pob cymhwysedd, dylech dynnu ar unrhyw gyflawniadau personol sy’n dangos bod gennych y sgiliau angenrheidiol. Fel rheol, amlinellwch y senario, disgrifiwch y camau penodol a gymerwyd gennych, a dywedwch beth oedd y canlyniad.
  • Mae’n arfer da parhau i gyfeirio’n ôl at y swydd ddisgrifiad wrth ddrafftio’ch ymatebion. Gall hyn eich helpu i gadw’ch atebion yn berthnasol ac i’r pwynt.
  • Gwiriwch eich sillafu a’ch gramadeg bob amser cyn cyflwyno’ch cais. Gofynnwch i rywun rydych yn ymddiried ynddo i’w brawf ddarllen i chi. Efallai y gallant ddweud wrthych a yw’ch ymatebion yn argyhoeddiadol ac yn llifo’n dda, neu hyd yn oed awgrymu newidiadau bach i’w helpu i’w gwella.

“Gall ffurflenni cais yn seiliedig ar gymhwysedd gymryd llawer o amser, ond mae’n werth rhoi ymdrech i mewn. Ar ôl i chi wneud un, bydd gennych dempled ar gyfer eraill. Ond peidiwch byth ag ailgylchu cais heb ei deilwra i swydd benodol. Yn bendant, nid yw un maint yn addas i bawb. Pob lwc!”

Mae wefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol yn cynnig arweiniad pellach ar lenwi ffurflen gais.