Neidio i’r cynnwys

Cam 4 – creu cynllun

Mae chwilio am swydd newydd yn cymryd ymroddiad ac amser. Mae nodi eich gweithgareddau chwiliad swydd mewn cynllun yn ffordd wych i drefnu eich chwiliad swydd. Bydd yn:

  • eich helpu i gadw cofnod o’ch cynnydd, a bydd yn hanfodol os ydych yn ceisio am lawer o swyddi.
  • gwnewch eich chwiliad swydd yn fwy effeithlon. Gan gynllunio yr hyn y mae angen i chi ei wneud pob dydd, rydych yn llai debygol o fethu cyfleoedd

Dyma rhai syniadau ar beth i’w gynnwys mewn cynllun chwiliad swydd.

  • Rhestrwch yr holl weithgareddau chwiliad swydd rydych am wneud pob dydd. Gallai’r rhain cynnwys:
  • Nodwch rai amserai, hynny yw, faint rydych yn bwriadu gwario ar bob gweithgaredd. Bydd hwn yn eich helpu i drefnu a strwythuro eich dyddiau:
    • Cymerwch eich amser. Peidiwch â thrio gwneud popeth mewn diwrnod
    • Amrywiwch y pethau rydych yn ei wneud pob dydd er mwyn cadw’n ffres. Er enghraifft, os ydych yn chwilio ar wefannau swyddi yn y bore, gwnewch gwrs hyfforddiant neu ddiweddarwch eich CV yn y prynhawn.
    • Trefnwch seibiannau. Mae hyn yn bwysig i’ch cadw’n ffres a chymell.
  • Gosodwch dargedau. Gallai’r rhain fod yn ddyddiol neu’n wythnosol, ond dylent fod yn realistig a chyraeddadwy i’ch cadw’n cymell a’n weithredol.

Gwiriwch eich cynllun yn rheolaidd a’i gadw’n gyfredol. Er enghraifft, pan rydych wedi gwirio gwefan swyddi neu anfon cais, nodwch nhw ar eich cynllun. Bydd hwn yn eich cadw’n drefnus a dangos eich cynnydd.

Ac ar gyfer pob targed rydych yn cyrraedd, rhowch wobr i’ch hun!

Ewch i’r dudalen nesaf ‘Cam 5 – chwilio am swyddi’  →

Ewch yn ôl i dudalen dewislen ‘Cynllunio eich chwiliad swydd’