Felly gweithiodd eich CV ac rydych drwodd i’r cam cyfweld. Mae gan anogwr gwaith o Ganolfan Byd Gwaith rai awgrymiadau i roi mantais i chi.
Newyddion gwych – mae gennych gyfweliad, a chyfle i ddangos iddyn nhw pam mai chi yw’r person iawn ar gyfer y swydd. P’un a ydych yn mynychu’r cyfweliad ar-lein, dros y ffôn neu’n bersonol, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud eich gwaith cartref ac yn barod.
Dyma fy awgrymiadau gorau:
- Ymchwiliwch i’r cwmni – Beth maent yn ei wneud? Faint o bobl maent yn eu cyflogi? Beth yw hanes y cwmni?
- Mae’n swnio’n sylfaenol, ond penderfynwch beth fyddwch yn ei wisgo. Sicrhewch fod eich dillad yn briodol i’r swydd rydych yn mynd amdani hyd yn oed os yw’n gyfweliad fideo.
- Ydych chi wedi meddwl yn galed am ba gwestiynau y gellid eu gofyn i chi? Edrychwch dros eich ffurflen gais yn wrthrychol – beth allech chi ofyn pe byddech yn gyfwelydd?
- Ymlaciwch, gwenwch, edrychwch y cyfwelydd lygad yn lygad a defnyddiwch y cyfle i ddweud wrthyn nhw am y pethau gwych rydych wedi’u gwneud.
Pob lwc!
Os ydych angen cymorth pellach gyda chyfweliadau , mae gan LifeSkills, a grëwyd gyda Barclays, fodiwl sy’n ymdrin â phwrpas cyfweliadau swyddi a’r broses o baratoi ar gyfer un. Ewch i wefan LifeSkills i ddarganfod mwy.