Neidio i’r cynnwys

Cymerwch y cam nesaf yn eich gyrfa yn 2024

P’un a ydych yn edrych i fynd yn ôl i’r gwaith, newid trywydd eich gyrfa neu gymryd y cam nesaf, mae’r flwyddyn newydd yn amser gwych i ddechrau meddwl am sut y gallwch wneud iddo ddigwydd. 

Dyma ein hawgrymiadau da ar sut i ddechrau’r flwyddyn newydd gyda swydd sy’n gweithio i chi.

Gwnewch eich ymchwil

Sicrhewch eich bod yn gwneud ymchwil ar y cwmni neu’r sector sydd gennych ddiddordeb ynddo. Peidiwch â gwneud cais heb ymchwilio manylion hysbysiad swydd.

Diweddaru eich CV

Dylech deilwra’ch CV i’r rôl rydych yn ceisio amdani. Bydd nifer o’ch sgiliau’n drosglwyddadwy, felly sicrhewch eich bod yn pwysleisio profiad perthnasol.  Darganfyddwch fwy am deilwra’ch CV.

Meddyliwch am beth sy’n gweithio i chi

P’un a ydych yn chwilio am rôl llawn amser sydd wedi’i lleoli yn y gweithle neu rôl rhan amser gyda mwy o hyblygrwydd, gallwch ddod o hyd i swydd sy’n addas am eich amgylchiadau. Darganfyddwch y gwahanol ffyrdd o weithio a all fod yn addas i chi.

Byddwch yn hyblyg

Pam nad ydych yn archwilio cyfleoedd mewn diwydiant newydd? Gall fod y rôl newydd berffaith yn aros amdanoch. Peidiwch â phoeni os nad oes gennych brofiad yn y sector hon, gall y sgiliau sydd gennych yn barod gael eu defnyddio mewn rôl newydd. Darganfyddwch fwy am y sectorau sy’n cyflogi nawr.

Cymerwch y cam nesaf

Nid yw dod o hyd i swydd newydd yn meddwl bod angen i chi ddod o hyd i le newydd i weithio – a allwch wneud cynnydd yn eich swydd bresennol? Mae gennym awgrymiadau ar ddatblygu yn eich swydd.

Hybu’ch sgiliau

P’un a ydych yn edrych ar geisio sector newydd, neu gymryd y cam nesaf yn eich swydd bresennol, mae’n bwysig i adnabod unrhyw fwlch mewn sgiliau yn eich CV, a meddwl am sut allwch ei lenwi. Mae digon o gyfleoedd sgiliau a hyfforddiant, yn y swydd a thu allan. Darganfyddwch fwy am y pethau y gallwch eu gwneud.

Os oes gennych Anogwr Gwaith, siaradwch â nhw am y ffyrdd y gallwch wella’ch set o sgiliau.

Defnyddiwch y Ganolfan Byd Gwaith

Os ydych yn hawlio budd-daliadau, efallai gallwch gael mynediad i gymorth ychwanegol gan Anogwr Gwaith.

Ledled y wlad, mae Anogwyr Gwaith yn helpu ceisiwyr gwaith gyda chymorth sydd wedi’i deilwra, gan uwchsgilio, a chynnal digwyddiadau recriwtio – gyda nifer o chyflogwyr yn cynnig swyddi yn y fan a’r lle. Darganfyddwch fwy am y Ganolfan Byd Gwaith a’r hyn y gall eich anogwr gwaith ei wneud i chi.

Angen mwy o help?

Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau o hyd, dilynwch ein saith cam hawdd i wella eich siawns o ddod o hyd i waith.