Mae’r cyngor a’r wybodaeth ar ein tudalen ‘Gwneud argraff mewn cyfweliadau’ yn ddefnyddiol i bawb sy’n cael eu cyfweld ar gyfer swydd newydd.
Ond os ydych dros 50 oed ac yn chwilio am swydd, efallai y bydd gennych gwestiynau neu bryderon ychwanegol am gyfweliadau swydd. Dyma rai awgrymiadau ar sut i fynd i’r afael â rhai o’r cwestiynau hynny fel eich bod yn dangos eich profiad a’ch sgiliau yn y ffordd gorau.
Nid wyf wedi cael cyfweliad swydd ers amser maith
- Bydd paratoi ac ymarfer yn helpu i leihau unrhyw nerfau sydd gennych. Er enghraifft, os yw’ch cyfweliad ar-lein ac nad ydych wedi gwneud hynny o’r blaen, ymarferwch gyda ffrind neu aelod o’r teulu.
- Efallai bod cyfweliadau swydd wedi newid ers y tro diwethaf i chi gael un ond cofiwch fod busnesau’n dal i chwilio am lawer o’r un pethau maent erioed wedi – er enghraifft, y sgiliau cywir, moeseg waith cryf, y gallu i weithio mewn tîm.
- Peidiwch ag anghofio, gall eich profiad fod yn fantais i chi.
Mae gen i lawer o brofiad, ond bydd fy oedran yn cyfri yn fy erbyn
- Mae yna lawer o fusnesau sy’n chwilio am weithwyr sydd â phrofiad a sgiliau bywyd. Edrychwch ar rai dyfyniadau gan gyflogwyr mawr.
- Os oes gennych y sgiliau a’r profiad mae cyflogwr eu heisiau, mae angen i chi sicrhau eich bod yn dangos y rhain yn ystod y cyfweliad. Peidiwch ag anghofio, mae’r ffaith bod gennych gyfweliad yn dangos bod gan y cyflogwr ddiddordeb yn yr hyn sydd gennych i’w gynnig. Dyma’ch cyfle i werthu’ch hun.
- Os ydych wedi paratoi, bydd gennych syniad clir o’r hyn y mae gan y cyflogwr ddiddordeb ynddo. Byddwch yn bositif a canolbwyntiwch eich atebion ar y pwyntiau allweddol hynny.
Ni allaf siarad am fy holl brofiad gwaith, ond nid wyf am golli unrhyw beth
- Gall penderfynu faint o’ch hanes gwaith i siarad amdano fod yn arbennig o heriol i rywun sydd wedi gweithio ers amser maith.
- Dyma le bydd paratoi’n dda yn eich helpu chi. Ewch yn ôl i’r hysbyseb swydd ac edrychwch ar y geiriau allweddol y mae’r cyflogwr yn eu defnyddio. Treuliwch ychydig o amser yn meddwl am sut mae’ch sgiliau’n cyfateb i’r rhain a pharatowch atebion neu enghreifftiau sydd fwyaf perthnasol.
- Ymarferwch eich atebion. Dywedwch nhw ar lafar wrth ffrind neu aelod o’r teulu – bydd yn eich helpu i fireinio pob ateb a magu eich hyder.
- Bydd canolbwyntio ar y pwyntiau allweddol nid yn unig yn eich helpu i gadw’ch atebion yn glir ac i’r pwynt, ond bydd hefyd yn dangos i’r cyfwelydd eich bod wedi gwneud eich gwaith cartref.
- Efallai y bydd yn anodd, ond os yw rhywfaint o’ch profiad yn llai perthnasol i’r swydd, gadewch hynny allan.
Cymerwch olwg ar ein tudalen ar awgrymiadau CV ar gyfer pobl dros 50 oed.