Neidio i’r cynnwys

Beth ddylai fynd mewn llythyr eglurhaol?

  • Bydd rhai recriwtwyr yn gofyn am llythyrau eglurhaol am geisiadau am swyddi. Hyd yn oed os nad ydyn nhw, mae’n arfer da darparu llythyr eglurhaol yn dweud wrth y cyflogwr pam mai chi yw’r ‘ffit iawn’ ar gyfer y rôl.
  • Dylai llythyr eglurhaol ategu eich CV drwy dynnu sylw at yr hyn sydd fwyaf perthnasol i’r swydd. Dylech osgoi dim ond crynhoi eich CV.
  • Dylech gynnwys teitl y swydd wag, cyfeirnod a’ch enw, yn ddelfrydol yn y pennawd.
  • Mae un dudalen fel arfer yn ddigon – oni bai bod y cyflogwr yn gofyn am rywbeth gwahanol.

Ewch i’r dudalen nesaf ‘Darganfyddwch fwy am CVs a llythyrau eglurhaol’ →

Ewch yn ôl i dudalen dewislen ‘Gwneud i’ch CV sefyll allan’