Ceir amrywiaeth eang o gyfleoedd o fewn amaethyddiaeth, gan gynnwys:
- Gweithwyr fferm – gwneud y gwaith ymarferol ar fferm, megis plannu a chynaeafu cnydau a gofalu am anifeiliaid.
- Rheolwyr fferm – rheoli gweithrediad dyddiol ffermydd.
- Gwerthiant amaethyddol – gwerthu nwyddau gwahanol i ffermydd megis bwyd anifeiliaid, gwrtaith a pheiriannau.
- Prynwyr grawn – prynu’r cnydau pan fyddan nhw’n cael eu cynaeafu.
- Trafnidiaeth a logisteg – i gael cynnyrch i warysau a marchnadoedd.
Yn ogystal, mae yna wahanol swyddi gwyddonol ym myd amaethyddiaeth gan gynnwys arbenigwyr planhigion, maethegwyr anifeiliaid a pheirianwyr. Mae ffermio modern hefyd angen cefnogaeth gan ymgynghorwyr busnes a gweinyddwyr.
Mae swyddi gwag ledled y DU ar gael ym maes ffermio, cynhyrchu bwyd a gweithgynhyrchu. Ewch i wefan Staffline i ddod o hyd i swyddi gwag mewn cynhyrchu bwyd ledled y wlad. Ar gyfer swyddi gwag ffermio ewch i Dod o hyd i swydd a The Farmers Weekly a gwrandewch ar stori Joe am symud o fanwerthu i ffermio.