Neidio i’r cynnwys

Cam 4 – Gwella eich cyfle o lwyddo

NAWR EICH BOD CHI WEDI DECHRAU YMGEISIO AM SWYDDI, DYMA RAI PETHAU Y GALLWCH CHI EU GWNEUD I WELLA’CH CYFLE O DDECHRAU GWAITH

Gwnewch y gorau o’ch canolfan waith: Os ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol ac mae angen rhywfaint o help arnoch i wella’ch cyfle o ddod o hyd i waith, cysylltwch â’ch anogwr gwaith. Gallent helpu gyda chefnogaeth gofal plant, dillad, trafnidiaeth, offer TG, hyfforddiant a llawer mwy.

Siaradwch â’ch anogwr gwaith: Os ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol gall eich anogwr gwaith eich helpu i ddeall pa gyflogwyr sy’n recriwtio yn eich ardal chi, beth maen nhw’n chwilio amdano, a beth allwch chi ei wneud i wella’ch cyfle o gael y swyddi hynny. Gallant hefyd ddweud wrthych am ffeiriau swyddi neu pan fydd cyflogwyr lleol yn ymweld â chanolfannau gwaith. Gwnewch y gorau o’u gwybodaeth.

Paratowch ar gyfer cyfweliadau: Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr yn defnyddio cyfweliadau i’w helpu i recriwtio’r person cywir. Darganfyddwch beth allwch chi ei wneud i helpu i sicrhau eu bod yn dewis chi.

Gwella eich sgiliau: Cymerwch olwg ar y disgrifiadau swydd o’r math o rôlau y mae gennych y mwyaf o ddiddordeb ynddynt. Byddwch yn onest ynglŷn â lle mae gennych fylchau. Darganfyddwch pa gyrsiau am ddim sydd ar gael i’ch helpu chi i gael y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Yn yr Alban gallai My World of Work dalu am rai cyrsiau i’ch helpu i ddod o hyd i swydd.

Cael rhywfaint o brofiad: Oes gennych ddiddordeb mewn rôl neu ddiwydiant ond does gennych chi ddim profiad o’r math yna o waith? Gallai gwirfoddoli neu brofiad gwaith agor y drws i chi.

Ehangwch eich chwiliad: Os ydych chi’n cael trafferth dod o hyd i waith yn eich diwydiant neu rôl dewisol, efallai y bydd gennych fwy o lwc os byddwch yn cymryd golwg ar fath gwahanol o swydd. Efallai y byddwch hefyd yn gweld bod sectorau nad ydych wedi eu hystyried o’r blaen â’r math o rôl rydych chi’n chwilio amdano. Darllenwch am ddiwydiannau sy’n tyfu, gan gynnwys sut mae yw gweithio ynddyn nhw a’r hyn sydd angen i chi wybod i ddechrau arni.

Edrychwch o gwmpas am gyngor: Mae gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol lawer o wybodaeth i’ch helpu i gael y swydd rydych chi ei heisiau, neu gweler My World of Work yn yr Alban neu Gyrfa Cymru. Gwnewch chwiliad Google i weld beth arall allai fod ar gael yn eich ardal chi.