EWCH I WEFANNAU SY’N DANGOS SWYDDI GWAG GAN FILOEDD O GYFLOGWYR
Erbyn hyn, bydd gennych syniad da o’ch sgiliau a’ch cryfderau, a bydd rhain wedi’u hysgrifennu i lawr yn eich CV. Rydych yn barod i wneud cais am swyddi.
Bydd gan rai diwydiannau fwy o swyddi ar gael nag eraill. Gallwch ddarllen mwy ar HelpSwyddi am rai mathau o swyddi sy’n fwy tebygol o fod ar gael. Mae gwybodaeth hefyd i’ch helpu i gychwyn mewn diwydiant nad ydych wedi gweithio ynddo o’r blaen.
Os ydych chi ar Gredyd Cynhwysol bydd eich anogwr gwaith yn gallu eich helpu i adnabod pa fathau o swyddi a allai fod yn iawn i chi, a bydd yn eich helpu i ddarganfod y swyddi gwag sydd ar gael yn eich ardal chi.
Mae hefyd llawer o declynnau ar-lein i’ch helpu i ddod o hyd i swydd newydd. Yn gyffredinol, mae chwiliadau swyddi ar-lein am ddim, ar gael 24/7 a dylai fod yn un o’r llefydd cyntaf rydych chi’n chwilio ar am eich cyfle swydd nesaf.
Defnyddiwch wasanaeth gwefan Dod o hyd i Swydd. Gyda Dod o hyd i Swydd gallwch greu proffil, llwytho’ch CV a derbyn rhybuddion e-bost am swyddi newydd a swyddi sy’n bodoli eisoes.
Mae digon o safleoedd swyddi eraill ar gael hefyd. Ceisiwch chwilio am ‘swyddi’ yn Google, neu gwnewch eich chwiliad yn fwy penodol i ddod o hyd i’r swyddi gwag sy’n gywir i chi, fel ‘swyddi manwerthu yn Leeds’.
Os oes cyflogwr penodol y mae gennych ddiddordeb ynddo, gallwch hefyd wirio eu gwefan am swyddi gwag.
Gadewch i ffrindiau a theulu wybod eich bod yn chwilio am waith rhag ofn iddynt glywed am unrhyw beth. Mae llawer o swyddi’n cael eu darganfod fel hyn – dydych chi byth yn gwybod!
Bydd darllen disgrifiadau swydd yn eich helpu i ddeall pa lefel o brofiad neu sgiliau mae’r cyflogwr yn chwilio amdanynt. Er bod hyn yn ddefnyddiol, peidiwch â digalonni os nad ydych yn siŵr bod gennych yr holl brofiad neu sgiliau sydd wedi’u rhestru. Ni fydd pob un o’r rhain yn gwbl angenrheidiol i’r cyflogwr, ac efallai y byddant yn hapus i chi ddysgu yn y swydd os oes gennych sgiliau neu brofiad eraill y maent yn eu hoffi.
Gall gymryd ychydig o amser i gael cyfweliad gan fod pob swydd yn aml â llawer o bobl yn gwneud cais amdano. Os na chawsoch gyfweliad mae bob amser yn syniad da i e-bostio’r cyflogwr a gofyn am adborth. Gall hyn fod yn ddefnyddiol i wella’ch CV a’ch ceisiadau, ac mae’n dangos bod gennych ddiddordeb gwirioneddol mewn gweithio iddynt.
Ni fydd pob cyflogwr yn rhoi gwybod i chi os yw eich cais wedi bod yn aflwyddiannus. Gall hyn beri gofid os ydych chi’n anfon llawer o geisiadau ond nad ydych yn clywed unrhyw beth yn ôl, ond ceisiwch beidio â digalonni. Nid yw’n ddim byd personol a dim ond oherwydd eu bod nhw mor brysur. Daliwch ati – os ydych chi’n dal ati i wneud y pethau iawn, yn y pen draw bydd rhywun yn gweld mai chi yw’r person iawn iddyn nhw.
Po fwyaf o swyddi addas rydych chi’n gwneud cais amdanynt, po fwyaf y byddwch yn gwella’ch cyfle o gael cyfweliad (ond peidiwch ag anghofio teilwra eich cais neu CV i’r swydd – mae ansawdd yn bwysicach na maint). Y peth gorau yw gwirio gwefannau swyddi bob dydd a cheisio am swyddi mor aml ag y gallwch. Peidiwch ag aros i glywed yn ôl o’ch ceisiadau, daliwch ati i wneud cais am swyddi eraill yn y cyfamser.
Mae rhai swyddi’n anoddach i’w cael nag eraill. Siaradwch â Gyrfa Cymru neu eich anogwr gwaith am yr hyn y gallwch ei wneud i’ch helpu i fod yn llwyddiannus. Gallai hyn olygu gwirfoddoli, hyfforddi, neu efallai dechrau swydd wahanol a fydd yn adeiladu eich profiad.
Nawr eich bod yn ceisio am swyddi, symudwch ymlaen i Gam 4 i weld beth allwch chi ei wneud i wella’ch cyfle o ddod o hyd i waith.