GWNEWCH RESTR O’R PETHAU RYDYCH CHI’N DDA YN EU GWNEUD NEU’N MWYNHAU EU GWNEUD
Bydd gwybod beth rydych chi’n dda yn ei wneud yn eich helpu i ddeall pa fathau o swyddi y dylech chi wneud cais amdanynt. Bydd yn gwella’ch cyfle o gael swydd a dylai olygu y byddwch chi’n mwynhau’r swydd yn fwy ar ôl i chi ei dechrau.
Mae pethau rydych chi’n dda am eu gwneud neu’n mwynhau eu gwneud yn cael eu galw’n ‘gryfderau’. Gallai cryfder fod yn rhywbeth rydych chi wedi’i wneud mewn swydd flaenorol neu rywbeth rydych chi wedi’i wneud y tu allan i’r gwaith.
Bydd ysgrifennu eich cryfderau i lawr yn helpu i sicrhau eich bod wedi meddwl am bopeth a allai helpu gyda’ch chwiliad swydd. Peidiwch â phoeni am yr union eiriau rydych chi’n eu rhoi i lawr – dim ond i atgoffa eich hun o’r holl bethau y gallwch chi eu gwneud yn dda yw hyn.
Dylech gynnwys unrhyw beth rydych chi’n meddwl y gallai cyflogwr ei hoffi amdanoch chi. Gallai hyn fod yn gymwysterau neu’n hyfforddiant rydych chi wedi’u gwneud ond dylai hefyd gynnwys pethau amdanoch chi a’ch personoliaeth yr hoffech eu defnyddio mewn swydd. Ydych chi’n hoffi helpu pobl? Ai chi yw’r un sy’n trefnu pethau bob amser? Ysgrifennwch y cyfan i lawr!
Isod ceir ychydig o syniadau a allai eich helpu i feddwl am eich cryfderau, ond mae croeso i chi gynnwys pethau nad ydynt wedi’u rhestru yma.
- Cymwysterau academaidd fel TGAU ac NVQs, neu gyrsiau hyfforddiant yr ydych wedi’u cwblhau.
- Arweinyddiaeth – Ydych chi erioed wedi rheoli unrhyw un? Gallai hyn fod mewn swydd flaenorol neu efallai hyd yn oed mewn hobi neu chwaraeon. Ydych chi wedi bod yn rhan o redeg unrhyw grwpiau neu glybiau?
- Sgiliau cyfathrebu – Ydych chi wedi gweithio mewn swydd sy’n wynebu cwsmeriaid? Neu fel rhan o dîm? Ydych chi’n ei ffeindio hi’n hawdd siarad â phobl? Ydych chi yn mwynhau ysgrifennu?
- Sgiliau gweinyddu – Ydych chi wedi gweithio mewn rôl lle rydych chi wedi gorfod gwneud llawer o dasgau gwahanol yn ystod y dydd? Ydych chi’n dda am gynllunio sut y dylid gwneud pethau? Ydych chi’n hoffi trefnu pethau i bobl eraill?
- Sgiliau TG – Ydych chi’n gwybod sut i ddefnyddio rhaglenni cyfrifiadurol fel Microsoft Word, PowerPoint ac Excel? Ydych chi’n anfon ac yn derbyn e-byst?
- Sgiliau eraill – Gallai hyn fod yn unrhyw beth rydych chi’n ei fwynhau neu’n dda yn ei wneud. Efallai y bydd yn eich helpu yn y gweithle ac efallai y bydd yn ddefnyddiol i gyflogwyr.
Os ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol beth am siarad â’ch anogwr gwaith am eich cryfderau? Bydd y math hwn o wybodaeth yn eu helpu i feddwl am swyddi y gallech chi fod yn dda yn eu gwneud. Gallent hefyd eich helpu i feddwl am gryfderau a phrofiad eraill y gallech fod wedi’u colli. Dyma hefyd y math o beth y gallwch ei drafod mewn sesiynau gwybodaeth grŵp yn y ganolfan waith.
Ar ôl i’ch rhestr gael ei chwblhau, symudwch ymlaen i Gam 2.