Neidio i’r cynnwys

Cam 2 – Creu CV

DEFNYDDIWCH ADEILADWR CV I GREU EICH CV EICH HUN

Bydd pob cyflogwr eisiau gwybod am eich sgiliau a’ch profiad. I gael y wybodaeth hon, bydd llawer ohonynt yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais neu anfon CV atynt.

Dylai eich CV ddangos eich hanes cyflogaeth, eich sgiliau a’ch cryfderau. Gallwch gynnwys eich hanes addysgol hefyd, fel ble aethoch i’r ysgol neu’r coleg a pha gymwysterau sydd gennych.

Er bod rhai cyflogwyr yn defnyddio ffurflenni cais yn hytrach na CVs, bydd cael CV cyfredol yn ddefnyddiol wrth lenwi ffurflen gais. Mae angen yr un math o wybodaeth yn y ddau.

Darganfyddwch fwy ar ein tudalen CVs a llythyrau eglurhaol.

Os ydych ar Gredyd Cynhwysol gall eich anogwr gwaith anfon dolenni atoch trwy eich cyfrif Credyd Cynhwysol a fydd yn helpu. Byddant hefyd yn siarad â chi am eich CV. Byddant yn gallu helpu i sicrhau ei fod yn apelio at gyflogwyr ac yn addas ar gyfer unrhyw swyddi gwag sydd ar gael ar hyn o bryd.

Unwaith y bydd eich CV yn barod, symudwch ymlaen i Gam 3.