Neidio i’r cynnwys
Menyw yn dangos gwaith i fenyw arall ar gyfrifiadur

Cymorth ariannol a budd-daliadau

Tra'ch bod yn chwilio am eich swydd nesaf, mae cymorth ariannol ar gael fel y gallwch ganolbwyntio ar chwilio am y rôl rydych ei heisiau.

Gallwch ddefnyddio gwiriwr budd-daliadau (gwefan allanol) i weld pa fudd-daliadau y gallech fod â hawl iddynt, a chyfrifiannell-budd-daliadau (gwefan allanol) i weld faint y gallech ei gael.

 

Cymorth i roi hwb i’ch incwm

Efallai y gallwch helpu i gynyddu eich incwm. Budd-daliadau – GOV.UK (gwefan allanol). Yn cynnwys gwybodaeth am Gredyd Cynhwysol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Lwfans Gofalwr a Lwfans Ceisio Gwaith.

 

Cymorth gyda biliau a chostau

Dewch o hyd i gymorth gyda chostau tai a biliau ynni (gwefan allanol).

 

Cymorth os ydych yn 60 neu throsodd

Dewch o hyd i Gredyd-Pensiwn (gwefan allanol) a chymorth gyda cost trafnidiaeth (gwefan allanol). Os ydych yn meddwl pryd y gallech ymddeol, gallwch hefyd gael Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth (gwefan allanol).

Os ydych yn meddwl pryd y gallech ymddeol, gallwch hefyd gael  Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth (gwefan allanol).

 

Cymorth os oes gennych gyflwr anabledd neu iechyd

Edrychwch ar ein tudalen ar fudd-daliadau os oes gennych gyflwr anabledd neu iechyd.

 

Cymorth gyda chostau gofal plant

Darganfyddwch pa gymorth y gallech ei gael i’ch helpu i dalu am ofal plant fel y gallwch aros yn eich swydd neu ddychwelyd i’r gwaith.

 

Cymorth os oes gennych gyfrifoldebau gofalu

Darganfyddwch am gymorth i ofalwyr os oes rhaid i chi gyfuno gwaith a gofalu.