Sut i ddatgloi eich potensial gyda 10 cwestiwn
Rydym i gyd yn wynebu heriau ac weithiau y rhan anoddaf o’u goresgyn yw gwybod ble i ddechrau.
Efallai eich bod ond yn cymryd y camau cyntaf yn eich gyrfa ac yn teimlo ychydig wedi eich llethu ag opsiynau? Neu efallai eich bod yn gwybod lle hoffech chi fod, ond ddim yn siwr sut y byddwch yn cyrraedd yno?
Efallai y bydd eistedd i lawr a gofyn ychydig o gwestiynau i’ch hun yn swnio’n sylfaenol, ond gall fod yn ffordd ryfeddol o effeithiol i ddod i adnabod eich hun ychydig yn well, cael gafael mwy cadarn ar beth sy’n sefyll yn eich ffordd mewn gwirionedd, a nodi rhai camau nesaf sy’n teimlo’n ymarferol ac yn iawn.
Hunan-Hyfforddi
Mae hwn yn fath o ‘hunan-hyfforddi’.(gwefan allanol) A’r peth gorau amdanoyw ei fod yn gyflym, am ddim, a gallwch ei wneud pryd bynnag a ble bynnag y dymunwch.
Mae’r 10 cwestiwn isod yn gweithio gyda’r model hyfforddi GROW. Fe’i defnyddir gan weithwyr hyfforddiant proffesiynol, prifysgolion a busnesau ledled y byd i helpu pobl i ddatrys eu meddyliau a dod o hyd i atebion i heriau y gallent fod yn eu hwynebu. Darllenwch fwy am fodel hyfforddi GROW (gwefan allanol) a dod o hyd i gwestiynau ychwanegol os ydych eu hangen.
Felly, heb wastraffu mwy o amser, dewch o hyd i le tawel os gallwch chi a chael pen neu bensil allan. Gofynnwch y 10 cwestiwn canlynol i chi’ch hun:
1: Pa nod ydych chi am ei gyflawni?
2: Ble ydych chi’n meddwl ydych chi ar hyn o bryd mewn perthynas â’ch nod?
3: Beth ydych chi’n meddwl sydd angen i chi ei wneud i ddod yn agosach at eich nod?
4: Pa gynnydd ydych chi wedi’i wneud hyd yn hyn?
5: Beth ydych chi’n meddwl sy’n eich atal rhag cyrraedd eich nod?
6: Beth yw eich opsiynau?
7: Beth ydych chi’n meddwl y dylech chi ei wneud nesaf?
8: Pa gefnogaeth ydych ei hangen i wneud hynny?
9: Beth allai fod eich cam cyntaf?
10: A oes unrhyw beth arall y gallwch ei wneud?
… a gobeithio nawr y byddwch yn teimlo eich bod chi’n agosach at gyrraedd eich nodau nag erioed o’r blaen.
← Yn ôl i’r dudalen dewislen ‘Ifanc ac yn chwilio am waith?’