Neidio i’r cynnwys

Gwaith a gofalu – awgrymiadau os ydych chi’n chwilio am waith wrth ofalu

P’un a ydych eisiau symud swyddi neu ddychwelyd i’r gwaith, mae llawer o opsiynau i’w hystyried i ddod o hyd i waith sy’n addas i chi. Wrth ofalu rydych hefyd yn datblygu sgiliau newydd neu’n gwella rhai sydd gennych eisoes. Mae’r sgiliau hyn yn werthfawr i gyflogwyr. Er enghraifft, cael sgyrsiau anodd, trefnu tasgau dyddiol, neu reoli cyllidebau.

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol ac angen gweithio, gellir lleihau nifer yr oriau o waith neu chwilio am waith y mae angen i chi eu gwneud bob wythnos i’ch galluogi i gyfuno gwaith a gofalu. Bydd eich anogwr gwaith yn eich helpu i chwilio am waith sy’n darparu’r hyblygrwydd rydych ei angen.

Ewch i’r dudalen nesaf ‘Cymryd seibiant i ofalu am rywun’

Ewch yn ôl i’r ddewislen gweithio a gofalu