- Gwiriwch beth rydych chi wedi’i ysgrifennu cyn i chi gyflwyno eich CV.
- Gwiriwch ffeithiau a dyddiadau dwywaith. Defnyddiwch y gwiriwr sillafu (wedi’i osod i Saesneg y DU neu’r Gymraeg) i wneud yn siŵr nad oes unrhyw gamgymeriadau sillafu na theipos. Gofynnwch i rywun arall ddarllen drwyddo. Gallant nodi pethau y gallech chi fod wedi’u methu.
- Sillafwch dalfyrddiadau a allai fod yn estron i gyflogwr.
- Byddwch yn wyliadwrus o iaith achlysurol y gallech ei defnyddio mewn neges destun a slang a allai fod yn anghyfarwydd i gyflogwr. Er enghraifft, peidiwch â defnyddio ‘u’ yn lle ‘you’ neu ‘plz’ yn lle ‘please’.
- Defnyddiwch gyfeiriad e-bost synhwyrol ar gyfer eich ceisiadau am swyddi. Gallai cyfeiriad e-bost ‘jôc’ fod yn iawn i’w ddefnyddio gyda’ch ffrindiau ond gallai fod yn chwithig ar CV.
Ewch i’r dudalen nesaf ‘Beth ddylai fynd mewn llythyr eglurhaol’ →
← Ewch yn ôl i dudalen dewislen ‘Gwneud i’ch CV sefyll allan’