- Mae addasu eich CV i’r swydd rydych chi’n gwneud cais amdano yn hanfodol. Os nad ydych, rydych chi’n llawer llai tebygol o gyrraedd y cam nesaf.
- Mae teilwra yn dangos eich bod wedi darllen y swydd ddisgrifiad ac wedi deall yn glir sut y byddech chi’n addas am y rôl.
- Dylech deilwra eich hanes cyflogaeth i ganolbwyntio ar brofiad mwy perthnasol. Peidiwch â bod ofn gwneud sylw mawr o swydd fach os yw’n fwy perthnasol i’r rôl rydych chi’n mynd amdani.
- Dechreuwch sylwi ar eiriau allweddol. Bydd y rhain yn cael eu cynnwys drwy gydol yr hysbyseb swydd. Defnyddiwch nhw yn eich CV. Mae’n llwybr byr i ddal llygad recriwtiwr.
- Peidiwch ag anghofio son am y sgiliau ‘trosglwyddadwy’ sydd gennych. Mae’r rhain yn sgiliau mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr yn eu gweld yn werthfawr, fel gweithio mewn tîm, cyfathrebu, y gallu i addasu a rheoli amser
Ewch i’r dudalen nesaf ‘Mynd trwy hidlwyr cais (Systemau Olrhain Ymgeiswyr)’ →
← Ewch yn ôl i dudalen dewislen ‘Gwneud i’ch CV sefyll allan’.