Neidio i’r cynnwys

Mynd trwy Systemau Olrhain Ymgeiswyr

 

System olrhain ymgeiswyr (ATS) yw meddalwedd cyfrifiadur mae nifer o gyflogwyr yn ei ddefnyddio i’w helpu i ddod o hyd i’r ymgeiswyr gorau. Maent yn sganio pob CV i ddod o hyd i allweddeiriau ac yn dewis y rhai sydd fwyaf tebyg i ddisgrifiad y swydd.

Mae’n ffordd effeithiol i gyflogwyr drefnu eu recriwtio, ond gallai olygu nad yw rhai ymgeiswyr cymwysedig yn mynd trwy’r ATS os nad yw eu CV yn cynnwys y pethau cywir.

Ond peidiwch â phoeni, dyma rhai awgrymiadau i’ch helpu i sicrhau bod eich CV yn cael ei weld gan recriwtiwr.

  • Sylwch ar yr allweddeiriau yn yr hysbysiad swydd a’u defnyddio yn eich CV. Os oes gennych CV sydd wedi’i deilwra i’r swydd benodol, mae’n debygol bydd yr ATS yn adnabod hyn.
  • Cadwch yn glir a chryno. Defnyddiwch bwyntiau bwled a rhannwch frawddegau hir a chymhleth. Mae hyn yn ei wneud yn haws i’r ATS ei ddarllen.
  • Peidiwch defnyddio lluniau, tablau neu ddiagramau. Mae’r rhain yn anoddach i’r ATS darllen. Cadwch at eirio, ffurfio a phenawdau safonol. (Os ydych am ddefnyddio’r rhain i ddangos eich sgiliau, rhowch y rhain mewn dogfen ar wahan.)
  • Gwiriwch am dypos a gwallau sillafu. Efallai na fydd ATS yn adnabod allweddair os ydyw wedi’i gamsillafu.

Gwiriwch fformat y ffeil rydych yn ei ddefnyddio. Fformat ffeil docx (dogfen safonol Microsoft Word) yw’r gorau i ATS ddarllen fel arfer..

Ewch i’r dudalen nesaf ‘Gwneud i’ch hanes cyflogaeth weithio i chi’ →

Ewch yn ôl i dudalen dewislen ‘Gwneud i’ch CV sefyll allan’