(Os ydych yn chwilio am wybodaeth ar help gyda chostau plant, darganfyddwch fwy ar ein tudalen costau gofal plant a chefnogaeth ar gyfer teuluoedd.)
Gall gweithio ym maes gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar fod yn yrfa hynod foddhaus a gwerth chweil. Cewch gyfle i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a chwarae rhan allweddol yn eu tyfiant a’u datblygiad. Trwy addysg a chwarae, byddwch yn helpu i osod sylfeini a dysgu sgiliau defnyddiol i blant sy’n eu paratoi ar gyfer yr ysgol ac yn ddiweddarach mewn bywyd.
Mae nifer o wahanol rolau y gallech eu hystyried:
- Mae Gweithwyr Meithrinfa yn helpu babanod a phlant hyd at 5 oed i ddatblygu a dysgu mewn lleoliad diogel a chefnogol. Gallwch ddod yn weithiwr meithrinfa trwy ennill cymhwyster o gwrs coleg neu brentisiaeth, neu gallwch wneud cais yn uniongyrchol.
- Mae Rheolwyr Meithrinfa yn rhedeg canolfannau gofal plant blynyddoedd cynnar, gan gydlynnu gofal ac addysg. Mae llawer o bobl yn dechrau fel gweithiwr meithrinfa, ac yna’n symud i rôl reoli. Fel arfer byddwch angen o leiaf dwy flynedd o brofiad o weithio mewn lleoliad gofal plant, neu gallwch wneud cais yn uniongyrchol gyda gradd prifysgol mewn datblygiad plant neu gymwysterau coleg cysylltiedig eraill.
- Mae Gwarchodwyr plant yn cynnig addysg gynnar a gofal plant proffesiynol yn eu cartrefi eu hunain, gan gefnogi’r dysgu a’r datblygiad cynnar i blant o bob oed. Mae’n rhaid i chi naill ai gofrestru gydag Ofsted (gwefan allanol) neu asiantaeth gwarchodwr plant (gwefan allanol). Gall gwarchodwyr plant newydd wneud cais am grantiau cychwyn busnes (gwefan allanol) (£600 os ydych yn cofrestru gydag Ofsted, neu £1,200 os ydych yn cofrestru gydag asiantaeth).
PRENTISIAETHAU
Mae prentisiaethau’n cynnig profiad ymarferol a hyfforddiant tuag at gymwysterau’r blynyddoedd cynnar, i gyd wrth ennill cyflog.
Mae dwy brentisiaeth blynyddoedd cynnar lefel mynediad, a gall y ddau fod yn addas hyd yn oed os nad oes gennych brofiad blaenorol:
- ymarferydd blynyddoedd cynnar lefel 2
- addysgwr blynyddoedd cynnar lefel 3
Darganfyddwch fwy o wybodaeth ar ein tudalen brentisiaethau neu chwiliwch am swyddi gwag prentisiaethau yn eich ardal ar Dod o hyd i Brentisiaeth (gwefan allanol).