Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r profiad a’r cryfderau rydych yn dod gyda chi i’r gweithlu.
Dyma rai cyflogwyr yn egluro pam fod pobl 50 a throsodd yn rhan bwysig o’u busnes a’r camau maent yn eu cymryd i gefnogi eu cydweithwyr hŷn i lwyddo.
Mae gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol yn yrfa gwerth chweil. Yn aml mae pobl yn teimlo pan eu bod eisiau rhywbeth gwahanol pan eu bod yn cyrraedd 50 oed. Nid ydynt eisiau cael eu cyfyngu i swyddfa, heb fawr o foddhad swydd, yn gwneud yr un peth bob dydd. Yn hytrach, maent eisiau rhoi yn ôl i'w cymuned, gan helpu rhai llai ffodus na nhw eu hunain, neu ddarparu cwmnïaeth i'r rhai sy'n teimlo'n ynysig ac yn unig. Gall Gofal Cymdeithasol, yn enwedig Gofal Cartref gynnig y newid hwn i chi, gyda boddhad swydd a theimlad o roi yn ôl i bobl eraill.
Desiree, Pennaeth Gweithrediadau Grwp, RLO Care at Home
Mae un o bob pedwar gweithiwr Zurich dros 50 oed ac rydym yn gwybod eu bod yn gwerthfawrogi hyblygrwydd. Er mwyn denu a chadw arbenigedd o'r fath, caiff pob rôl ei hysbysebu fel rhai sydd ar gael yn rhan-amser neu fel rhannu swydd. Mae ein pobl yn dweud wrthym eu bod angen amser i ffwrdd ar gyfer cyfrifoldebau gofalu neu i deithio a mwynhau hobïau. Mae ein polisïau'n caniatau am hyn ac yn cynnwys cefnogaeth lles llawn.
Steve, Prif Swyddog Adnoddau Dynol, Zurich Insurance
Mae'r RSPCA yn falch o recriwtio, cadw a datblygu gweithwyr dros 50 oed yn rhagweithiol, a chreu amgylchedd sy'n gyfeillgar i oedran. O'n pecyn cymorth menopos, rhaglen pensiwn, gweithdai cynllunio ymddeoliad, cyfleoedd hyfforddi, cymorth gofal iechyd, a threfniadau gweithio hyblyg, mae'r mentrau hyn yn helpu ein staff hŷn i lwyddo.
Chris, Prif Swyddog Gweithredol, RSPCA
Mae cymaint o dalent heb ei ddefnyddio allan yna. Rydym yn rhoi ein holl ymdrech a ffocws i ddenu cymaint o weithwyr aeddfed ag y gallwn. Mae ganddynt ethic gwaith gwych a chymaint o sgiliau bywyd trosglwyddadwy, mae'n anhygoel.
Chelsea, Rheolwr Recriwtio, Alcedo Care
Credwn y gall cyflogwyr elwa o brofiad pobl dros 50 oed, sy'n arbennig o bwysig yn y farchnad lafur dynn hon. Fe wnaethom lansio ein rhaglen Restart yn 2017 i gefnogi pobl hŷn ar eu taith yn ôl i gyflogaeth. Mae'r cyfranogwyr yn derbyn cefnogaeth gan fentoriaid Allen & Overy, yn ogystal â gweithdai a hyfforddiant wedi'u teilwra. Maent yn teimlo'n fwy hyderus, maent yn cydnabod ac yn defnyddio eu sgiliau, ac mae ganddynt strategaethau i oresgyn unrhyw rwystrau maent yn eu hwynebu.
Sasha, Prif Swyddog Adnoddau Dynol Byd-eang, Allen & Overy
Yn Parkdean Resorts, mae gennym nifer o wahanol rolau sy’n addas i weithwyr hŷn, gan gynnwys cynnal a chadw, glanhau, bwyd a diod a chwaraeon a hamdden. Rydym hefyd yn darparu hyblygrwydd trwy gynnig contractau tymhorol, patrymau shifftiau a gweithio ar benwythnosau i gyd-fynd ag ymrwymiadau eraill.
Helen, Pennaeth Caffael Talent, Parkdean Resorts
Mewn cyfnod o brinder sgiliau dybryd mae'n bwysicach nag erioed i ddenu a chadw gweithlu sy'n amrywiol o ran oedran. Mae gweithwyr sy’n 50 oed a throsodd yn dod â chyfoeth o sgiliau, profiad amrywiol a gwybodaeth y dylai cyflogwyr eu harneisio'n llawn, gan gefnogi diwylliannau cynhwysol sy'n adlewyrchu pob rhan o gymdeithas. Mae perygl iddynt golli allan ar y buddion sylweddol hyn os nad ydynt yn mabwysiadu arferion cynhwysol o ran oedran.
Peter, Prif Swyddog Gweithredol, Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu