Neidio i’r cynnwys

Beth yw gweithio hyblyg?

Woman working at standing desk

 

Mae gweithio hyblyg yn disgrifio ffordd o weithio sy’n gweddu i anghenion gweithiwr, yn ogystal â’r cyflogwr. Mae’n cyfeirio ar unrhyw drefniad gwaith sy’n wahanol i’r ‘9 i 5, dydd Llun i ddydd Gwener’ traddodiadol, a’r gweithle safonol megis swyddfeydd ayyb.

Wrth i’r byd gwaith foderneiddio, mae cyflogwyr yn cyflwyno arferion gwaith mwy hyblyg i recriwtio ac ail-lunio’r dalent orau.

Enghreifftiau o weithio hyblyg:

  • Gwaith rhan-amser – gweithio llai o oriau mewn wythnos
  • Amser Hyblyg – mwy o ddewis dros yr oriau penodol rydych yn gweithio
  • Gweithio hybrid – cyfuniad o weithio yn eich man gwaith arferol a gweithio gartref
  • Gweithio o bell – gweithio’n gyfan gwbl o adref neu leoliad gwahanol i safle eich cyflogwr
  • Oriau cyddwys neu gywasgedig – gweithio’ch oriau dros lai o ddyddiau
  • Rhannu swyddi- dau neu fwy o weithwyr yn rhannu swydd i gwmpasu rôl llawn amser
  • Sifftiau gwahanol – mae gan weithwyr wahanol amseroedd dechrau a gorffen i’w cydweithwyr, i weddu i’w hamgylchiadau
  • Gweithio yn ystod amser tymor – oriau i weddu i rieni sy’n gweithio
  • Oriau blynyddol – oriau a weithiwyd dros flwyddyn, yn aml mewn sifftiau penodol gyda chi’n penderfynu pryd i weithio.
  • Gwaith tymhorol – swyddi dros dro sy’n llenwi galw busnesau ar adegau penodol o’r flwyddyn, yn gyffredinol yn y diwydiannau amaethyddiaeth, teithio, cyflenwi a manwerthu.
  • Ymddeoliad rhannol – gan nad yw oedran ymddeoliad diofyn (oedran ymddeoliad gorfodol o 65) mewn lle erbyn hyn, gallwch nawr ofyn i’ch cyflogwr leihau eich oriau a gweithio’n rhan-amser nes eich bod yn penderfynu ymddeol.

Ewch i’r dudalen nesaf ‘Buddion o weithio hyblyg’

Ewch yn ôl i’r dudalen dewislen ‘Gweithio hyblyg’