Mae gweithio hyblyg yn disgrifio ffordd o weithio sy’n gweddu i anghenion gweithiwr, yn ogystal â’r cyflogwr. Mae’n cyfeirio ar unrhyw drefniad gwaith sy’n wahanol i’r ‘9 i 5, dydd Llun i ddydd Gwener’ traddodiadol, a’r gweithle safonol megis swyddfeydd ayyb.
Wrth i’r byd gwaith foderneiddio, mae cyflogwyr yn cyflwyno arferion gwaith mwy hyblyg i recriwtio ac ail-lunio’r dalent orau.
Enghreifftiau o weithio hyblyg:
- Gwaith rhan-amser – gweithio llai o oriau mewn wythnos
- Amser Hyblyg – mwy o ddewis dros yr oriau penodol rydych yn gweithio
- Gweithio hybrid – cyfuniad o weithio yn eich man gwaith arferol a gweithio gartref
- Gweithio o bell – gweithio’n gyfan gwbl o adref neu leoliad gwahanol i safle eich cyflogwr
- Oriau cyddwys neu gywasgedig – gweithio’ch oriau dros lai o ddyddiau
- Rhannu swyddi- dau neu fwy o weithwyr yn rhannu swydd i gwmpasu rôl llawn amser
- Sifftiau gwahanol – mae gan weithwyr wahanol amseroedd dechrau a gorffen i’w cydweithwyr, i weddu i’w hamgylchiadau
- Gweithio yn ystod amser tymor – oriau i weddu i rieni sy’n gweithio
- Oriau blynyddol – oriau a weithiwyd dros flwyddyn, yn aml mewn sifftiau penodol gyda chi’n penderfynu pryd i weithio.
- Gwaith tymhorol – swyddi dros dro sy’n llenwi galw busnesau ar adegau penodol o’r flwyddyn, yn gyffredinol yn y diwydiannau amaethyddiaeth, teithio, cyflenwi a manwerthu.
- Ymddeoliad rhannol – gan nad yw oedran ymddeoliad diofyn (oedran ymddeoliad gorfodol o 65) mewn lle erbyn hyn, gallwch nawr ofyn i’ch cyflogwr leihau eich oriau a gweithio’n rhan-amser nes eich bod yn penderfynu ymddeol.
Ewch i’r dudalen nesaf ‘Buddion o weithio hyblyg’ →
← Ewch yn ôl i’r dudalen dewislen ‘Gweithio hyblyg’